Neidio i'r prif gynnwys

GIGGLING SQUID

Ym mwyty Giggling Squid, cewch chi blataid llawn blas a chynhwysion egsotig, gan gogyddion sy’n hen law ar eu crefft, i dwymo’r corff a’r galon. Dyma’r traddodiad Thai go iawn - bywiog ac anffurfiol, gyda gwledd o brydau i rannu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.

Cafodd ei sefydlu gan dîm gŵr a gwraig, Andy a Pranee, mewn bwthyn pysgota bach yn Brighton, ac atgofion Pranee o’i magwraeth yn Ngwlad Thai a’r bwyd yno oedd yr ysbrydoliaeth.  Daw ei hangerdd am gynhwysion ffres, egsotig o ymweld â marchnadoedd bwyd pan yn blentyn, y perlysiau sawrus, pob math o lysiau, a’r bwyd môr byw.  Pan symudodd Pranee i’r DU i astudio, bu’n gweini mewn bwyty a dyna lle cwympodd mewn cariad gyda lletygarwch. Dyma ddechrau’r breuddwyd o agor ei lle unigryw ei hun.  Mae Pranee’n dweud,

“Ro’n i eisiau creu naws Thai newydd, ddim fel gweddill y bwytai Thai yn llawn pren fel teml. Ro’n i eisiau mynd ar fy liwt fy hun yn lle dilyn yn ôl troed pobl eraill’

Mae’r décor unigryw yn cynnwys lliwiau llachar, meinciau clyd a goleuo gwych, ac mae popeth yma wedi’i ysbrydoli gan yr amrywiaeth o gynhwysion o’r tir a’r môr yng Ngwlad Thai. Felly cewch chi wledd ar sawl ystyr gan gynnwys i’r llygaid, yn y bwyty yma sydd mor adnabyddus am ei wedd ag y mae am ei fwyd.

Mae’n ugain mlynedd ers i Andy a Pranee agor eu bwyty cyntaf, ond mae eu tapas Thai gwreiddiol mor boblogaidd ag erioed.  Ochr yn ochr â hen ffefrynnau, maen nhw o hyd yn dyfeisio prydau newydd ac mae rhywbeth i bawb ar y bwydlenni cinio a swper gan gynnwys cyris, bwyd wedi’i dro-ffrio, ac opsiynau feganaidd i dynnu dŵr o’r dannedd. Sdim diffyg diodydd da chwaith, o goctels, swigod, a gwirodydd egsotig.

Ac i ateb yr un hen gwestiwn – Giggling Squid oedden ni’n arfer galw un o’r plant!

CYFARWYDDIADAU

St David’s Dewi Sant, 29-33 The Hayes, Cardiff CF10 1GA

CYSWLLT

Cyfeiriad

St David’s Dewi Sant, 29-33 The Hayes, Cardiff CF10 1GA