Neidio i'r prif gynnwys

GO APE

P'un a ydych yn dwlu ar gyffro ac yn chwilio am hwyl llawn antur neu eisiau treulio rhywfaint o amser arbennig gyda ffrindiau a theulu, mae gennym ni’r antur i chi. Os ydych yn chwilio am un o'r atyniadau awyr agored gorau yn Ne Cymru, dyma ni.

Rydym yn nhiroedd parc gwledig hardd Margam – parcdir o 1,000 erw. Mae’r parc a’r castell nepell o Gyffordd 38 yr M4. Dim ond 40 munud i ffwrdd o Gaerdydd, mae’n ddiwrnod allan gwych. Yn ogystal â chroesfannau pennau coed a gwifrau gwib cyflym iawn, mae Margam yn ymfalchïo yn siglen Tarzan fwyaf Go Ape. Naid ffydd sy’n troi’r stumog gyda chwymp chwe metr.

Treetop Challenge

Taith hunan-dywysedig gyffrous 2-3 awr drwy ganopi’r goedwig.

Mae Treetop Challenge yn Go Ape Margam yn brofiad 2-3 awr. Mae’n cynnwys briff diogelwch manwl gan un o’n hyfforddwyr cymwys cyn i chi fynd i bennau’r coed. Byddwch yn taclo croesfannau ar uchder canopi, yn neidio oddi ar siglenni Tarzan cwympo rhydd ac yn reidio gwifrau gwib cyflym iawn.

Does dim byd tebyg i hwyl llawn cyffro, marw chwerthin a sgrechian mor uchel â phosibl. Wedi’i gynllunio ar gyfer cyplau ifanc, ffrindiau a theuluoedd gyda phlant dros 10 oed. Rydym yn un o’r gweithgareddau awyr agored gorau yn Ne Cymru.

Anghofiwch eich dillad gorau. Hen ddillad cyfforddus fydd orau. Gwisgwch yn addas i’r tywydd. Ni fydden ni’n argymell gwisgo gwyn. Credwch ni. Mae ein mannau glanio sglodion coed yn frwnt!

Hwyl i oedolion yn yr awyr agored. Cymerwch yr amser i wastraffu eiliad.

Cod gostyngiad o 15% i deuluoedd ar gyfer y Treetop Challenge, dysgwch fwy yma.

Ydw i’n gallu cymryd rhan mewn Go Ape?

  • Isafswm Oed – 10 oed
  • Isafswm Taldra – 1.4m (4tr7″)
  • Uchafswm pwysau – 20.5 stôn (130kg)

DIRECTIONS

Margam Country Park, Margam SA13 2TJ