Yn The Grazing Shed rydym yn teimlo’n angerddol dros wneud byrgyrs o safon; cymaint fel ein bod ni wedi datblygu ein casgliad unigryw a blasus, Super Tidy Burgers.
Mae Super Tidy Burgers yn arbennig, wedi eu gwneud gyda chariad gan ddefnyddio’r cynnyrch lleol gorau yn unig. Mae ystod eang o ddewisiadau cig eidion, cyw iâr, llysieuol a figan.
Caiff ein bara ei bobi heb unrhyw gadwolion nac ychwanegion gan ein pobydd artisan ac mae ein sawsiau a siytnïau hyfryd, arloesol ond syml i gyd yn cael eu creu gyda gofal a manylder i orffen y byrgyrs i’r safon orau bosibl.
Mae ein dulliau cynhyrchu arloesol yn ein galluogi ni i greu byrgyr mewn chwinciad o’i gymharu â’r amser y byddech yn disgwyl ar gyfer cynnyrch o’r fath safon, gan roi profiad bwyta cyflym cwbl newydd ac arloesol i chi.
Ffôn
079 7096 2140
E-bost
elian.owen@thegrazingshed.com
Cyfeiriad
The Grazing Shed, 37 St Mary Street, Cardiff, CF10 1AD