Y gyrchfan steilus hon yng nghanol Caerdydd fydd y lle delfrydol i gwrdd â phobl, cael pryd o fwyd ac ymlacio, a hynny o fewn tafliad carreg i Stadiwm Principality, yr orsaf drenau ganolog a diwylliant caffis bywiog y ddinas.
Yn rhan o’r Celtic Collection dethol, mae gwesty moethus newydd gorau Caerdydd yn adlewyrchu holl geinder a glamor ei leoliad hanesyddol ar safle hen Swyddfa Bost fawreddog y ddinas, a agorwyd gyntaf ym 1897 i ddathlu blwyddyn Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines Fictoria.
Heddiw, mae arddull art deco ddeniadol y gwesty yn dod ag oes a fu yn fyw. Yn ystafelloedd mawreddog yr hen Swyddfa Bost, a oedd unwaith yn llawn llythyrau wedi’u hysgrifennu â llaw a phecynnau papur brown, mae siandelïers disglair a soffas lledr moethus erbyn hyn, lle mae pobl yn mwynhau cinio cain a phrydau ysblennydd yn yr amgylchedd mwyaf hudolus. Ewch i fwyty a bar yr Ystafell Ddidoli neu ddianc o fwrlwm y ddinas yn y lolfa hyfryd neu’r cwrt awyr agored, lle mae te prynhawn yn bleser braf, mae cinio hamddenol yn brofiad cain, mae swper yn achlysur i’w sawru, a siampên a choctels chwech o’r gloch sy’n rhoi cychwyn ar y nosweithiau hwyr gorau.
Wedi’ch temtio i aros ychydig yn hirach? Mae’r ystafelloedd gwely mawr hardd yr un mor ysblennydd ac unigryw â Gwesty’r Parkgate ei hun, gan gynnig cymysgedd steilus o foethusrwydd cyfoes a chlasurol. Nid oes unrhyw ddwy ystafell yr un fath, pob un wedi’u steilio ar sail ei nodweddion ei hun yn unol â phensaernïaeth hanesyddol y gwesty. O ystafelloedd Uwch moethus i’r Switiau Parkgate tra arbennig, dewch i ymdrochi yn y moethusrwydd gyda steil soffistigedig ac elfennau tra chyfoethog i gyd yn rhan o’r profiad.
I’r rhai sy’n chwilio am ymlacio’n llwyr, fel un o gyrchfannau lles mwyaf unigryw’r ddinas, mae’r Spa yng Ngwesty’r Parkgate yn cynnig lle i ddianc o’r byd, mewn lleoliad boutique trawiadol yn llawn cyfleoedd i ymlacio a dadflino. Dewch i fwynhau’r heddwch, teimlo’n ddiogel a chael eich sbwylio fel un o’r ychydig o westeion dethol a groesewir bob dydd yn sba unigryw Elemis, sy’n cynnig teml stêm perlysiau, salon trin ewinedd a phrofiad sba thermol adfywhaol sy’n cynnwys pwll hydrotherapi diddiwedd â golygfeydd syfrdanol o nenlinell y ddinas.
Gyda’i gymysgedd swynol o ysblander oes a fu a moethusrwydd cyfoes, mae Gwesty’r Parkgate yn cyfleu steil, soffistigeiddrwydd a cheinder, perffaith ar gyfer dathliadau ac achlysuron arbennig i’w cofio. O gyfarfodydd clos i ddigwyddiadau mawreddog, mae’r lleoliad hanesyddol hardd hwn yn cynnig lleoliadau a bwyta eithriadol. Dewiswch Swît y Postfeistr drawiadol, lle hyblyg i hyd at 344 o westeion gael cinio neu swper gyda’i ardal bar breifat ei hun, neu Ystafell y Telegraff glyd ac atmosfferig, sy’n lleoliad gwych ar gyfer dathliadau preifat o hyd at 50 o westeion gyda drama ychwanegol y gegin theatr agored lle gall eich gwesteion fwynhau gwylio wrth i’r cinio gael ei weini.
Beth bynnag y bo’r achlysur, mae Gwesty’r Parkgate yn cynnig lle cain i gwrdd ar gyfer achlysuron chwaraeon, danteithion ciniawa, profiadau sba a dihangfeydd hyfryd yng nghanol y ddinas.
Darganfyddwch ragor ac archebwch ar-lein yn www.theparkgatehotel.wales
Cyfarwyddiadau
Contact Us
Ffôn
029 2274 5595
E-bost
parkgatehotelenquiries@celtic-collection.com
Cyfeiriad
Westgate Street, Canol Dinas Caerdydd, Cardiff CF10 1DA