Wedi’i leoli rhwng Castell Caerdydd a Stadiwm Principality, mae gwesty’r Holiday Inn yng nghanol Caerdydd yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer archwilio canol y ddinas.
Gallwch fwynhau mynd i siopa yn y brifddinas fywiog hon neu ymlacio yn un o blith niferoedd o fariau a bwytai. Mae’r gwesty mewn man berffaith hefyd os ydych yn ymweld ag Arena Motorpoint, y Theatr Newydd neu Neuadd Dewi Sant. Ym mhob un o’r 157 ystafell wely mae system aerdymheru a chyfleusterau sy’n cynnwys defnydd o ryngrwyd cyflym. Gellir archebu ystafelloedd hygyrch neu ystafelloedd sy’n addas i deuluoedd.
Mae’r gwesty’n cynnig parcio ar y safle ar gyfer hyd at 85 o geir (codir tâl).
Mae Gorsaf Caerdydd Canolog ond yn ddeg munud ar droed o’r gwesty.
Ffôn
087 1942 9240
E-bost
reservations@hicardiffcitycentre.co.uk
Cyfeiriad
Stryd Castell, Caerdydd CF10 1XD