Neidio i'r prif gynnwys

HOLIDAY INN EXPRESS MAES AWYR CAERDYDD

Mae Holiday Inn Express Maes Awyr Caerdydd yn westy tawel mewn ardal ddeiliog ger y maes awyr ac mae gwasanaeth bws gwennol cyfleus ar gael.

OPENING HOURS

Mon - Fri

09:00 - 17:00

Sat - Sun

09:00 - 17:00

Holiday Inn Express Cardiff Airport Holiday Inn Express Cardiff Airport Holiday Inn Express Cardiff Airport Holiday Inn Express Cardiff Airport

Mae atyniadau canol y ddinas, megis Castell Caerdydd a’r Gorthwr Normanaidd, ynghyd â thai bwyta ac adloniant Bae Caerdydd, o fewn taith 30 munud o’r gwesty. Mae bysus gwib i ganol y ddinas yn gadael yn gyson o stepen drws y gwesty. Mae atyniadau poblogaidd fel Parc Pleser Ynys y Barri, Castell Ffwl-y-mwn ac Amgueddfa Werin Sain Ffagan i gyd o fewn cyrraedd hawdd mewn car. Gall ymwelwyr busnes ddefnyddio Canolfan Fusnes y Gwesty, sydd ar agor 24 awr y dydd, neu gynnal digwyddiad mewn ystafell gyfarfod â’r holl gyfarpar angenrheidiol, gyda lluniaeth ar gael ar gais.

Mae’r canlynol i gyd ar gynnig hefyd:

  • WiFi am ddim
  • Ystafelloedd gyda gwelyau soffa, delfrydol ar gyfer teuluoedd
  • Parcio am ddim ar y safle
  • Pecynnau Parcio, Aros Hedfan

Gallwch roi dechrau da i’r diwrnod gyda Brecwast Express Start™ sy’n gynwysedig ym mhris yr ystafelloedd, ac sy’n cynnwys 4 eitem boeth. Mae’r opsiynau bwyta ar gael drwy’r dydd, yn cynnwys prydau tafarn, a gallwch ymlacio gyda gwydraid o win yn y bar neu fwynhau awel y môr ar y patio. Mae te a choffi am ddim yn yr ystafelloedd cysurus, ac mae golygfeydd gwych dros Fôr Hafren neu redfa’r Maes Awyr, drwy ffenestri atal sŵn â phedair haen o wydr. Ac mae’r llenni trwchus yn siŵr o sicrhau noson dda o gwsg.

Ffôn

014 4671 1117

E-bost

reservations@hiexcardiffairport.co.uk

Cyfeiriad

Port Road, Y Rhws, Caerdydd CF62 3BT