IKEA

Yn cynnig ystod eang o ddodrefn cartref syml, fforddiadwy, wedi'u cynllunio'n dda, gyda’r cyfan o dan yr un to. Mae’r Arferol Ryfeddol yn dechrau gartref - cynlluniwch eich taith i IKEA Caerdydd.

Rydym yn hoffi gwneud ymweliad ag IKEA Caerdydd yn hwyl i blant ac yn haws i oedolion. Småland yw ein hardal chwarae dan oruchwyliaeth am ddim, sydd wrth fynedfa ein siop. Bydd cydweithwyr IKEA Småland yn gofalu am eich plant am ddim am 45 munud wrth i chi fwynhau siopa yn y siop.

Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau am ddim, gan gynnwys gweithdai crefft a gweithgareddau i blant yn ystod gwyliau’r ysgol. Cymerwch olwg ar ein tudalen digwyddiadau yn rheolaidd… rydyn ni’n ei diweddaru drwy’r amser.

Ydy siopa yn eich gwneud chi’n llwglyd? Rydym yn gweini bwyd gonest, fforddiadwy a blasus. O beli cig Swedaidd i goffi a theisen, mae gennym rywbeth at ddant pawb.