Wedi’i achub gan y gymuned, mae’r tŷ 170 oed wedi bod yn destun gwaith adnewyddu hanfodol ac mae’r ystafelloedd mawreddog, gan gynnwys yr Ystafell Ddarllen hanesyddol, bellach ar agor i ymwelwyr. I fyny’r grisiau, gall ymwelwyr brofi arddangosfa dreftadaeth barhaol, “This House is a Stage”, drama sain drwy brofiad sy’n dod â hanes lleol yn fyw ar ffurf cyflwyniad dramatig o gynnydd a chwymp yr Insoles, teulu o berchnogion glo a llongwyr a ddefnyddiodd eu cyfoeth i adeiladu Cwrt Insole fel adlewyrchiad domestig o Gastell Caerdydd. Mae gan Cwrt Insole Iard Stablau hefyd wedi’i hadfer gydag ystafelloedd ar gael i’w llogi ar gyfer digwyddiadau cymunedol, busnes a phreifat, a’r Caffi Potting Shed sy’n gweini teisennau wedi’u pobi’n ffres, brecinio a chinio 7 diwrnod yr wythnos.
Mae adfer ac adnewyddu Cwrt Insole yn benllanw 30 mlynedd o ymgyrchu cymunedol. Ar ôl degawdau o ansicrwydd, mae’r plasty a’r adeiladau allanol a fu’n adfeilion ar un adeg wedi ailagor i’r cyhoedd ac wedi prysur ddod yn ychwanegiad pwysig at dirwedd ddiwylliannol Caerdydd.
Ers i’r safle ailagor yn 2016, mae Cwrt Insole wedi croesawu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o’r ddinas a thu hwnt. Mae digwyddiadau cyhoeddus fel cyngherddau, dangosiadau ffilm, diwrnodau marchnad a theithiau treftadaeth wedi gwneud y plasty a’r gerddi yn gyrchfan newydd i dwristiaid a thrigolion Caerdydd.
Mae’r cyfleusterau llogi ystafelloedd eithriadol yn cynnig cyfleusterau’r 21ain ganrif o’r radd flaenaf i gwsmeriaid corfforaethol a chymunedol mewn lleoliad unigryw, Fictoraidd. P’un a ydych yn ymweld â’r plasty trawiadol, yn crwydro’r gerddi addurnedig neu’n galw heibio i’r caffi swynol, mae Cwrt Insole wedi dod yn atyniad y mae’n rhaid ei weld, yn ased cymunedol gwerthfawr ac yn enghraifft benigamp o adfywio wedi’i arwain gan dreftadaeth.
DIRECTIONS
55 Fairwater Road, Llandaff