Rydym yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â stori teulu Cascarini yn dod draw i Abertawe o’r Eidal ac yn agor caffi o’r enw Joe’s Ice Cream. Dim ond y cynhwysion gorau o Gymru oedd yn ddigon da i Joe wneud ei Gelato fanila nodedig, mmm. Ond a oeddech chi’n gwybod bod Caerdydd hefyd yn gartref i un o’r siopau? Galwch heibio i’r caffi ar Heol Wellfield a gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cynnig ar eu hufen iâ, eu cacennau a’u hysgytlaeth, lysh!
Lleoliad: 29 Heol Wellfield, CF24 3PA