Bydd eich dychymyg yn mynd yn wyllt wrth i chi archwilio erwau o goetir i ddarganfod dinosoriaid mewn lleoliad naturiol. Cofiwch edrych ym mhobman – dydych chi byth yn gwybod ble gall yr un nesaf fod yn cuddio!
Rhyfeddwch at ein dinosoriaid maint bywyd a byddwch barod i gwrdd ag ambell ysglyfriwr ar hyd y ffordd. Mae ein casgliad Dinosoriaid yn dod o un o’r canolfannau ymchwil dinosoriaid mwyaf blaenllaw ac mae pob creadigaeth yn cyd-fynd ag ymchwil cyfredol a damcaniaethau gwyddonol ar ddinosoriaid. Bydd eich plant yn rhyfeddu at ba mor drawiadol yw rhai o’r creaduriaid cynhanesyddol.
Mwynhewch ein Pyllau Cloddio ar thema Dinosoriaid wrth i’ch plant ddysgu sut i archwilio a darganfod amrywiaeth o olion ffosil difyr. Mae gan bob pwll Ddinosor ffosil cudd o dan y tywod. Mae staff mewn gwisgoedd wrth law i’ch helpu i ddod â’ch profiad yn fyw, a dydych chi byth yn gwybod, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn cyfarfod â dinosor unigryw Cymreig ar hyd y ffordd.
Ar ôl i chi orffen y Profiad Dinosoriaid, mae croeso i chi grwydro ein Gerddi Hanesyddol, Teyrnasoedd y Tylwyth Teg, Ffermydd Canoloesol neu fwynhau taith gerdded trwy ein 300m erw o goetiroedd.
Fonmon Castle, Castle Road, Fonmon, Vale of Galmorgan. CF62 3ZN