Neidio i'r prif gynnwys

LAS IGUANAS

Mae bwytai Las Iguanas yn gartref i fwyd a choctels gwych o Frasil, Mecsico ac America Ladin. 2 goctel am bris 1 bob dydd drwy’r dydd!

ORIAU AGOR

Llun - Iau

10:00 - 23:00

Gwe - Sad

10:00 - 23:30

Sul

10:00 - 22:30

Las Iguanas Las Iguanas Las Iguanas Las Iguanas

Mae gan Las Iguanas fwyd a chotels ffres o America Ladin. Yma mae prydau gorau America Ladin gyda blasau unigryw a ryseitiau ysbrydoledig o Frasil, Mecsico, Periw a thu hwnt. Mae’r fwydlen y fyw gyda chynhwysion ffres o safon, wedi’u coginio â digon o angerdd, cariad a lledrith Lladinaidd.

O ffajitas poeth i brydau clasurol o Frasil mewn potiau traddodiadol, mae rhywbeth i bawb gan gynnwys bwydlenni di-glwten, llysieuol a figan a byrgers o safon. Mae Las Iguanas yn llee gwych i fwynhau bwyd trofannol a mwynhau treulio amser gyda ffrindiau a theulu. Gall plant gael blas ar Dde America gyda bwydlen Iggy & Friends a grewyd gan Aardman Animations, gyda dewis o brydau blasus o Wacky Tacos i Crazy Quesadillas a Chicken Crispies tra bod bwyd babi organig hefyd ar gael – holwch y gweinydd.

Mae dau Las Iguanas yng Nghaerdydd…

CAERDYDD - LÔN Y FELIN

Gwybodaeth

Mae Las Iguanas Lôn y Felin Caerdydd yn berffaith i bartis mawr, corneli clyd, diodydd cyn digwyddiad, amser i’r teulu, cinio neu goctels wrth y bar. Welwn ni chi yno! Ar ddiwrnodau digwyddiad mawr rydym yn newid i’n Bwydlen Digwyddiad (yn hytrach na’r bwydlenni a la carte arferol) i sicrhau y gall cynifer o ymwelwyr â phosibl fwynhau pryd yn ystod y dydd Efallai na fydd gostyngiadau, bwydlenni eraill a chynigion ar gael ar ddiwrnodau digwyddiadau.

Cyswllt

Ffon: 029 2022 6373

Ebost: cardiff@iguanas.co.uk

8 Mill Lane, Cardiff, CF10 1FL

CAERDYDD - CEI’R FÔR-FORWYN

Gwybodaeth

Mae Cei’r Fôr-Forwyn yn edrych dros y bae ac yn dod ag ysbryd America Ladin i Gaerdydd i bobl leol ac ymwelwyr at ei gilydd. Dewch i mewn am fwyd gwreiddiol a blasus. Lle perffaith am ginio cyflym neu aros i aros sbel yn y bythau cyfforddus a’r piazza cyfoes sy’n edrych dros Fae Caerdydd.

Cyswllt

Ffon: 029 2045 9165

Ebost: mermaidquay@iguanas.co.uk

Ground Floor, Mermaid Quay, Cardiff Bay, Cardiff, CF10 5BZ

CYFARWYDDIADAU