Wrth galon dinas Caerdydd, mae’r adeilad Fictoraidd ysblennydd hwn wedi ei ailwampio’n hyfryd. Mae’n fan gosgeiddig a moethus, ac yn cynnig gwasanaeth a chyfleusterau o’r radd flaenaf.
Mae 140 o ystafelloedd gwely a swîts en-suite yn y gwesty, pob un â chyfleusterau heb eu hail, yn cynnwys tymherydd aer, teledu sgrin wastad, WiFi, sêff ar gyfer gliniadur a chawod bwerus.
Mae tŷ bwyta The Social wedi ennill 2 roséd AA ac yn cynnig profiad bwyta gwahanol a nodedig. Mae’r gwesty hefyd yn ymfalchïo yn y Bar Siampên a Bar Lolfa Harlech.
Mae 65 o fannau parcio diogel gan y gwesty.
Ffôn
08713 769 011
E-bost
cardiff@leonardohotels.com
Cyfeiriad
Plas y Parc, Caerdydd CF10 3UD