Neidio i'r prif gynnwys

CRONFEYDD DŴR LLYS-FAEN A LLANISIEN

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn ganolfan ar gyfer iechyd, llesiant, gweithgareddau dŵr, a bioamrywiaeth. Agorodd yr atyniad newydd hwn i ymwelwyr, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Caerdydd, yn haf 2023.

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn ganolfan ar gyfer iechyd, llesiant, gweithgareddau dŵr, a bioamrywiaeth. Agorodd yr atyniad newydd hwn i ymwelwyr, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Caerdydd, yn haf 2023.

Mae Cronfeydd Llys-faen a Llanisien yn dirnod Fictoraidd a adeiladwyd ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’n ymestyn dros 110 erw o ofod gwyrdd a glas ac yn gartref i gyfoeth o fflora a ffawna – gan gynnig hafan heddychlon ym mhrifddinas Cymru.

Mae’r gweithgareddau dŵr ar Gronfa Ddŵr Llanisien yn cynnwys padlfyrddio, hwylio, canŵio, a chaiacio. Mae’r amodau’n berffaith gyda dŵr glân a dim cerrynt na llanw, gyda hyfforddwyr cymwys wrth law ar gyfer pob sesiwn yn y dŵr. Mae sesiynau dysgu amrywiol ar gael ar wahanol adegau, ac mae modd cadw lle ar y rhain ymlaen llaw ar ein gwefan.

Mae’r ganolfan ymwelwyr ddeulawr yn cynnig golygfeydd ysblennydd ar draws y cronfeydd dŵr ac yn cynnig profiad bwyd eithriadol, sy’n cynnwys y cynnyrch Cymreig gorau. Yn ystod y dydd, mae gan y caffi fwydlen brecwast a chinio blasus, ynghyd â bwydlen cinio dydd Sul tri chwrs. Mae’r caffi yn cael ei drawsnewid yn ‘fwyty gyda’r nos’ (o fis Medi 2023), pan fydd bwydlen gyda’r nos ar gael dair noson yr wythnos. Mae ystafelloedd cyfarfod ar gael i’w llogi; ac mae gwasanaeth Prynu a Mynd ar y llawr gwaelod yn cynnig detholiad o fyrbrydau a diodydd, coffi ffres, a hufen iâ.

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn adnodd naturiol o bwys ecolegol sylweddol ac mae’n cwmpasu dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ar gyfer yr adar sy’n treulio’r gaeaf yno a’r casgliad amrywiol o ffyngau glaswelltir, gan gynnwys hyd at 25 rhywogaeth o ffwng cap cwyr prin.

Mae’r safle’n gartref i amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys nadroedd y gwair, dyfrgwn, ystlumod, llyffantod a brogaod. Mae llawer o rywogaethau o adar yn defnyddio’r coetiroedd a’r gwrychoedd ar gyfer nythu, yn enwedig adar cyffredin yr ardd fel y titw tomos las, y titw mawr, y robin goch, y frân dyddyn, y ji-binc, y llinos werdd a’r nico. Mae cuddfannau adar yn cynnig cyfle i wylwyr adar arsylwi yn dawel ar adar o bob math ac mae ynysoedd adar wedi’u gosod ar Gronfa Ddŵr Llysfaen i greu ardal heddychlon fel safleoedd bridio neu glwydo ar gyfer adar dŵr.

Gall ymwelwyr â Chronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien fwynhau 5km o lwybrau cylchol o amgylch y cronfeydd dŵr, a Llwybr Stori drwy’r coetir a gomisiynwyd gan Dîm Dinas sy’n Dda i Blant Caerdydd sydd wedi creu llwybrau stori pwrpasol ym mharciau Caerdydd. Gall grwpiau llesiant ac ysgolion archebu ystafell ddosbarth awyr agored ym mharth dysgu’r coetir, ynghyd â’i dŷ crwn Cymreig.

Dim ond yn y ganolfan ymwelwyr a’r maes parcio y caniateir cŵn ac ni chaniateir iddynt fynd i unrhyw le arall ar y safle, gan gynnwys y llwybrau. Mae croeso i gŵn cymorth ym mhob rhan o’r safle.

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn rhan o bortffolio Anturiaethau Dŵr Cymru o atyniadau ymwelwyr ledled Cymru. Y cyrchfannau eraill yw Llys-y-frân (Sir Benfro), Cwm Elan (Canolbarth Cymru), Llyn Brenig (Gogledd Cymru) a Llyn Llandegfedd (De Cymru).

DIRECTIONS

Lisvane & Llanishen Reservoirs Visitor Centre, Lisvane Road, Lisvane, Cardiff, CF14 0BB

CONTACT

Ffôn

02920 740454

E-bost

lisvaneandllanishen@dwrcymru.com