Neidio i'r prif gynnwys

MAES CARAFANAU CAERDYDD

Mae Parc Carafanau Caerdydd mewn tir parc caeedig ger canol y ddinas, ac mae’n wych fel man cychwyn i fwynhau’r nifer o atyniadau amrywiol sydd yn ac o gwmpas Caerdydd.

ORIAU SWYDDFA

Llun - Iau

09:00 - 17:00

Gwen

09:00 - 20:00

Sad - Sul

09:00 - 17:00

Cardiff Caravan Park Cardiff Caravan Park

Er gwaethaf y safle canolog, mae’n teimlo fel petai yn y wlad, sy’n ei gwneud yn hawdd anghofio mai dim ond taith fer ar droed ydy canol y ddinas ac mae atyniadau’r Bae o fewn cyrraedd hawdd ar y ffordd neu gyda’r bws dŵr. Nid oes diwedd i’r atyniadau gwych a’r gweithgareddau sydd wrth drothwy eich drws, yn cynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Mileniwm, Parc Bute, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ac un o ganolfannau siopa gorau’r DU a llawer mwy i’w ddarganfod o fewn taith awr mewn car. Mae beiciau ar gael i’w llogi ar y safle gan Pedal Power, sy’n ffordd wych o fynd o gwmpas a darganfod y ddinas neu fynd ar hyd Taith Taf.

Mae 43 llain laswellt ac mae gan bob un ei chyflenwad dŵr ei hun a phwyntiau cysylltu 16 amp trydanol, 40 llain heb drydan a lle ar gyfer 20 carafan yn ogystal â phebyll mewn ardaloedd llawr meddal. Mae Camerâu Cylch Cyfyng yn monitro’r safle 24 awr y dydd ac mae dau floc gwasanaeth gyda chawodydd pŵer a thai bach, ac mae cyfleuster teulu arbenigol ar gyfer pobl anabl a larwm panig sy’n cysylltu â’r warden dyletswydd. Mae cyfleusterau golchi dillad ac ardal golchi llestri ar y safle, siopau yn agos a bars a bwytai yn yr ardal gyfagos oherwydd mai dim ond 1.5km i ffwrdd ydy canol y ddinas. Mae golau da ar y ffordd i’r parc yn y nos ac mae ystafell deulu ar gael (gan Pedal Power) o 9.30am tan 4pm saith diwrnod yr wythnos yn cynnig lluniaeth ysgafn. Mae Parc Carafanau Caerdydd yn eiddo i Gyngor Caerdydd sydd hefyd yn gyfrifol am ei reoli.

GWYBODAETH DDEFNYDDIOL

Rhestr Prisiau

Rydym ar agor 365 diwrnod y flwyddyn ac yn croesawu ymwelwyr gyda charafannau, cartrefi modur a phebyll

Carafán/Cartref Modur/Campio Cyfraddau
Llain fesul noson gyda thrydan £35
Llain fesul noson heb drydan £30
Llain fesul wythnos gyda thrydan £210
Llain fesul wythnos heb drydan £180
Llain fesul noson gyda thrydan – Gwyliau Banc/Digwyddiadau £40
Llain fesul noson heb drydan – Gwyliau Banc/Digwyddiadau £35
Cost person ychwanegol fesul noson – Oedolyn £10
Cost person ychwanegol fesul noson – Plentyn £4
Cost person ychwanegol fesul noson – Oedolyn (Digwyddiadau) £15
Cerbydau Ychwanegol £10

 

  • Mae’r prisiau a restrir yn seiliedig ar ddim mwy na 2 oedolyn neu Deulu gyda 2 oedolyn a 2 blentyn
  • Cyfraddau sengl ar gael ar gais
  • Carafán Yn gynwysedig yn y pris: Carafán + Adlen + Un Cerbyd tynnu yn unig
  • Cartref Modur Yn gynwysedig yn y pris: Cartref modur yn unig
  • Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw geir a phebyll ychwanegol, a thalu amdanynt, wrth gyrraedd
  • Roedd yr holl fanylion yn gywir ar adeg argraffu

Poteli nwy

Propan coch 3.9kg £17.30
Propan coch  6.0kg £20.40
Propan coch  13.0kg £26.00

Biwtan glas  4.5kg 17.90
Biwtan glas  7.0kg £22.85
Biwtan glas  15.0kg £36.60

Tocynnau

Tocynnau golchi  £3.00
Tocynnau sychu  £2.00

Talu
  • Dim ond punnoedd Prydeinig rydyn ni’n eu derbyn
  • Rydyn ni’n derbyn nodiadau Banc yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • Rydyn ni’n derbyn cardiau credyd/debyd ac eithrio American Express
Cyrraedd / Gadael

Cyrraedd

  • Mae’r lleiniau ar gael o 12 canol dydd ar y diwrnod y byddwch yn cyrraedd
  • Rhowch wybod i’r maes carafannau ymlaen llaw os ydych yn bwriadu cyrraedd ar ôl 6.00pm

Gadael

  • Rhaid gadael y lleiniau erbyn 10.30am ar y diwrnod rydych yn bwriadu gadael

BLE MAE MAES CARAFANAU CAERDYDD?

Mewn car

Gadewch yr M4 ar gyffordd 32 a dilynwch yr A470 Canol y Ddinas. Pan welwch y castell yn dechrau dod i’r golwg ar y dde, symudwch i’r lôn dde. Pan yrrwch dros y bont (dros Afon Taf), trowch i’r dde wrth y golau traffig cyntaf ar Heol y Gadeirlan. Wrth y golau traffig nesaf, trowch i’r dde (Sophia Close). Trowch i’r chwith yn y gylchfan a gyrrwch yn syth ymlaen heibio i’r cae criced a bydd y Maes Carafanau ar y chwith. Os ydych yn llywio gyda chymorth lloeren, rhowch god post Cae Clwb Criced Morgannwg - CF11 9XR.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae’r maes carafanau oddi ar Heol y Gadeirlan, y mae nifer o fysus yn ei gwasanaethu. Gallwch ddefnyddio bysus 24, 33 a 60 i fynd i’r Orsaf Ganolog a busys 25, 32 a 62 i fynd o’r Orsaf Ganolog.

CYSYLLTU Â NI

Ffôn

029 2039 8362

E-bost

CardiffCaravanPark@cardiff.gov.uk

Cyfeiriad

Caeau Pontcanna, Caerdydd CF11 9XR