Neidio i'r prif gynnwys

NCP HEOL Y PORTH CAERDYDD

Wedi'i leoli gyferbyn â Stadiwm Principality, mae ein maes parcio yn Heol y Porth Caerdydd yn ddelfrydol ar gyfer gigs a digwyddiadau chwaraeon.

Mae’r maes parcio cyfleus hwn yng Nghaerdydd yn tynnu’r straen mas o barcio yng nghanol y ddinas. Mae’n ddigon rhad hefyd. Mae maes parcio Heol y Porth hefyd yn agos i Neuadd Dewi Sant, Arcêd y Castell, Marchnad Ganolog Caerdydd a Chastell hanesyddol Caerdydd. 

PARCIO AM BRIS GOSTYNGOL GYDAG NCP A CHROESO CAERDYDD

GALLWCH BARCIO AM 7 AWR AM £6.99

Mwynhewch hyd at 7 awr o barcio am £6.99 trwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylai’r gost am yr opsiwn 7 awr fod yn £6.99.

PARCIO GYDA'R NOS AM £4

Parciwch rhwng 6pm a 3am am ddim ond £4 drwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylech weld y cynnig perthnasol fel opsiwn pris.

DIRECTIONS

Westgate Street, Quay Street, Cardiff, CF10 1DZ