Neidio i'r prif gynnwys

NCP RAPPORTS CAERDYDD

Wedi'i leoli gyferbyn ag Utilita Arena ac o fewn tafliad carreg i ganolfan siopa Dewi Sant, mae maes parcio Rapports Caerdydd yn ganolog, cyfleus a chost-effeithiol.

Mae hefyd yn agos at Arcêd y Frenhines a champws Prifysgol De Cymru, ac mae’n daith gerdded hawdd i holl siopau a bwytai Caerdydd ac i ddigwyddiadau yn yr arena. Beth am gadw lle ymlaen llaw a bachu lle parcio cyn teithio?

PARCIO AM BRIS GOSTYNGOL GYDAG NCP A CHROESO CAERDYDD

GALLWCH BARCIO AM 7 AWR AM £6.99

Mwynhewch hyd at 7 awr o barcio am £6.99 trwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylai’r gost am yr opsiwn 7 awr fod yn £6.99.

PARCIO GYDA'R NOS AM £4

Parciwch rhwng 6pm a 3am am ddim ond £4 drwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylech weld y cynnig perthnasol fel opsiwn pris.

DIRECTIONS

Rapports, David Street, Cardiff, CF10 2EH