Mae Marchnad Ffermwyr Pontcanna yn gweithredu bob dydd Sadwrn rhwng 10am a 1.30pm gan werthu bwyd ffres sy’n cyfrannu at gefnogi masnachwyr a ffermwyr crefftus lleol yng Nghymru ynghyd â’r rheiny sy’n cynnig cynnyrch diddorol o bob cwr o Ewrop a’r byd.
Amrywiaeth o stondinau fel bara surdoes wedi’i bobi’n ffres, ffrwythau a llysiau organig, cig organig, cawsiau Cymreig, olew olewydd pur, wyau maes, sbeisys a llawer mwy.
Lleoliad: 183a Kings Road Yard, Ffordd y Brenin, Pontcanna, Caerdydd CF11 9DF