Neidio i'r prif gynnwys

GWESTY A SBA MERCURE CARDIFF HOLLAND HOUSE

Mae Gwesty a Sba 4 seren Mercure Holland House Caerdydd yn westy modern yng nghanol prifddinas fywiog Cymru

Overview

Mercure Cardiff Holland House Mercure Cardiff Holland House Mercure Cardiff Holland House Mercure Cardiff Holland House Mercure Cardiff Holland House Mercure Cardiff Holland House

Mae Gwesty a Sba 4 seren Mercure Holland House Caerdydd yn westy modern yng nghanol prifddinas fywiog Cymru, ac mae ganddo 165 o ystafelloedd gwely. Mae holl atyniadau Caerdydd o fewn pellter cerdded o’r gwesty, megis Stadiwm y Principality eiconig a Chastell Caerdydd. Mae ei 15 ystafell cyfarfodydd ag offer pwrpasol yn medru darparu ar gyfer 700 o westeion, sy’n golygu mai’r Mercure yw’r gwesty â’r cyfleusterau cynadledda mwyaf yng Nghaerdydd. Yn ogystal, mae gan sba’r gwesty 13 ystafell driniaeth, ystafell fwyta ac ymlacio preifat ar gyfer y sba a chyfleusterau hamdden helaeth (campfa, pwll nofio 18m, Jacuzzi, sawna ac ystafell stêm).

Directions

Mewn car

Yn teithio o’r dwyrain, gadewch yr M4 yng Nghyffordd 29 (A48M i Gaerdydd) Cymerwch yr allanfa, arwydd Caerdydd a Dociau’r Dwyrain. Yn y gylchfan adael, cymerwch y chwith gyntaf a chadwch at y lôn chwith (peidiwch â mynd i lôn y dociau). Yn y gylchfan cymerwch yr ail allanfa i Heol Casnewydd a parhewch am tua 2.5 milltir. Mae’r gwesty ar y chwith.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae’r gwesty ger y rhan fwyaf o lwybrau bysus Caerdydd. Gallwch ddefnyddio bysus rhif 30, 44, 45, 49 a 50. Mae Gorsaf Heol-y-Frenhines ddeg munud ar droed o’r gwesty ac mae Gorsaf Caerdydd Canolog tua 20 munud i ffwrdd.

Contact Us

Ffôn

029 2043 5000

E-bost

h6622@accor.com

Cyfeiriad

24-26 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0DD