Yn berffaith ar gyfer taith gerdded hamddenol neu daith ar gefn beic, mae’r Morglawdd mewn safle arforol prydferth ac yn cynnig golygfeydd bendigedig o Fae Caerdydd ac Aber Afon Hafren. Gan ei fod yn wastad, mae’n hygyrch i bob ymwelydd.
Mae amrywiaeth o weithgareddau hamdden yn cael eu cynnal ar hyd y Morglawdd yn y maes chwarae i blant, yn y Sgwâr Sglefrio ac yng nghampfa awyr agored adiZone. Gall ymwelwyr hefyd gael golwg ar yr arddangosfeydd am ddim, eistedd a chael hun-lun gyda’r Crocodeil Enfawr, a chael seibiant yng Nghaffi Hafren, sy’n cael ei redeg gan yr RSPB.
Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
Ffôn
029 2087 7900
E-bost
CardiffHarbour@cardiff.gov.uk
Cyfeiriad
Penarth Portway, Bae Caerdydd, Caerdydd CF64 1TQ