Neidio i'r prif gynnwys

ALEXANDRA PARK

Mae Parc Alexandra yn barc cyhoeddus Edwardaidd sy’n edrych dros Fôr Hafren, ac mae wedi cadw ei holl nodweddion gwreiddiol! Dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd iddi am fod yn un o’r mannau gwyrdd gorau yn y wlad. Mae hefyd yn gartref i senotaff, a grëwyd gan y cerflunydd o Gaerdydd, Syr William Goscombe John, yn gofeb i’r rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae rhai o’r seddi, gatiau’r parc a ffensys yn wreiddiol, yn ogystal â llawer o’r planhigion a blannwyd ychydig cyn neu ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Lleoliad: Rectory Road, CF64 3AN

CYFARWYDDIADAU