Neidio i'r prif gynnwys

Mae Parc Cathays (Canolfan Ddinesig Caerdydd) yn barc hanesyddol rhestredig gradd 1 â llawer o gymeriad. Mae’n gartref i Gae’r Canmlwyddiant y tu mewn i Erddi Alexandra, sy’n gartref i gofeb o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd y tu mewn i’r parc mae meini hir Gerddi’r Orsedd sy’n gofnod o Eisteddfod 1899. Gallwch hefyd ryfeddu at y cerfluniau o bobl leol amlwg, yn bennaf gan y cerflunydd o Gaerdydd, Syr William Goscombe John, sy’n cydnabod eu cyfraniad at ddatblygu Caerdydd fel dinas.

Lleoliad: Parc Cathays, CF24 3QR

CYFARWYDDIADAU