Mae Peppermint Bar & Kitchen wedi bod ar sîn coctels Lôn y Felin ers mis Awst 2011, gan ddod ag amrywiaeth o goctels unigryw ynghyd â’r rhai traddodiadol i ganol y ddinas.
Mae ein hawyrgylch hamddenol a’n dewislen o goctels hynod yn ein gwneud yn lleoliad perffaith i ymlacio ar ôl gwaith neu i ddathlu drwy gydol y nos ar y penwythnos. Ar ddau lawr, mae gennym ardaloedd VIP ac ardaloedd bwth i ddarparu ar gyfer partis neu ddigwyddiadau corfforaethol a hynny â gwasanaeth bwrdd ar gyfer y profiad personol gorau oll.
Lleoliad: 63 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1FE