Os ydych yn chwilio am lety rhad o safon uchel neu ddewis arall i hostel, tai llety neu westy, yna gall Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fod yn ddelfrydol i chi. O ddiwedd mis Mehefin i ddechrau mis Medi, mae llety ar gael i deuluoedd, grwpiau a theithwyr unigol.
Mae 800 ystafell sengl en-suite ar gael yng nghampws Plas Gwyn a Chyncoed, y mae’r ddau yn agos at ganol y ddinas ac mae cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a maes parcio ar y safle. Mae dillad gwely a llian â phob ystafell wely ac mae cegin i’w rhannu gyda theledu Freeview a man eistedd. Mae Wi-Fi ar gael am ddim i bob gwestai.
Mae Campws Plas Gwyn ym mhentref cadeiriol Llandaf ger siopau, bwytai a thafarndai. Gyda’r Daith Taf ond tafliad carreg i ffwrdd, gallwch fwynhau mynd am dro yn hamddenol ar hyd glannau’r afon i gyrraedd canol dinas Caerdydd neu gallwch fynd am jog neu ar gefn beic i ymweld â Chastell Coch.
O Gampws Cyncoed, taith gerdded fer yn unig sydd at lyn hyfryd Parc y Rhath yng ngogledd y ddinas ac i ganolfan siopa Albany Road. Mae nifer o ystafelloedd sengl uwchraddol a gwely maint 3/4 sy’n addas i ddau berson. Mae Campws Cyncoed yn cynnwys pwll nofio a champfa hefyd.
Mae’r ystafelloedd yn rhoi gwerth gwych am arian – dim ond £33 (gan gynnwys TAW) y noson! Os hoffech gael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni drwy ffonio +44(0)29 2041 6181/2 neu gallwch edrych i weld pa ystafelloedd sydd ar gael a’u harchebu ar-lein.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae bysus rhifau 62 a 63 yn mynd o Heol y Porth yng nghanol y ddinas (safle KJ) bob 15 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Ffôn
+44 (0)29 2041 6181/2
E-bost
conferenceservices@cardiffmet.ac.uk
Cyfeiriad
Campws Plas Gwyn Llantrisant Road Caerdydd CF5 2XJ Campws Cyncoed Cyncoed Road Caerdydd CF23 6XD