Neidio i'r prif gynnwys

RADISSON BLU CAERDYDD

Chwilio am westy yng Nghaerdydd? O ran llety gwestai yng Nghaerdydd, Cymru; Mae'r Radisson Blu Caerdydd yn codi uwchlaw'r gweddill.

Dewch i brofi cyfleustra, cysur ac ansawdd adeilad 21 llawr Gwesty’r Radisson Blu, Caerdydd, y tro nesaf i chi ddod i ymweld â phrifddinas Cymru. Wedi’i leoli yng nghalon y ddinas, mae’r gwesty o fewn pellter cerdded o Orsaf Caerdydd Canolog ac ond yn 24 cilomedr o Faes Awyr Caerdydd

Gallwch brofi’r cyrchfannau busnes, atyniadau diwylliannol, siopa, bwytai a bywyd nos gerllaw’r gwesty. Dewiswch o blith 215 o ystafelloedd gwely a swîts, pob un ohonynt â mwynderau 4 seren megis defnydd o ryngrwyd diwifr cyflym iawn am ddim, ffenestri sy’n ymestyn o’r llawr i’r nenfwd a chyfleusterau paratoi te a choffi.

Rhowch gynnig ar gymysgedd ffres o fwyd Prydeinig ag elfen o’r Cyfandir yn ein Bwyty Collage, ac ymlaciwch â diod cyn mynd i’r gwely, ym Mar a Lolfa Collage.

Mae’r gwesty’n cynnig chwe ystafell gyfarfod amlbwrpas yn ogystal â chanolfan fusnes a dewisiadau arlwyo.  Mae’r gwesty’n cynnig hyn a hyn o lefydd parcio ar y safle am £18 y noson, a gallwch ddod o hyd i lefydd parcio cyfleus gerllaw hefyd ym meysydd parcio John Lewis, Canolfan Siopa Dewi Sant II a’r NCP yn Pellet Street.

 

CYFARWYDDIADAU

Mewn car

Mewn car: Mae’n hawdd cyrraedd y gwesty o’r M4; allanfa cyffordd 32 ond 6 cilomedr i ffwrdd; cymerwch yr A470 (G Caerdyd) a ewch am ganol y ddinas. Pan fyddwch yn Rhodfa Bute mae’r gwesty gyferbyn â siop John Lewis.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Ar y trên: Mae Gorsaf Caerdydd Canolog ond yn bum munud ar droed o Westy Radisson Blu. Mae trenau cyflym yn cysylltu’r rhan fwyaf o ddinasoedd yn y DU gyda threnau uniongyrchol rheolaidd o Lundain, Manceinion a Birmingham. Hedfan: Mae Maes Awyr Caerdydd 24km i’r gorllewin o’r gwesty a gellir ei gyrraedd ar fws, trên neu dacsi mewn llai na 30 munud. Mae ehediadau uniongyrchol rheolaidd ar gael bob cwr o’r DU a chyrchfannau Ewropeaidd a rhyngwladol eraill.

Ffôn

02920454777

E-bost

info.cardiff@radissonblu.com

Cyfeiriad

Meridian Gate, Bute Terrace, Cardiff,CF10 2FL,United Kingdom