Neidio i'r prif gynnwys

Rainbow Casino, sydd wedi ei leoli yng nghanol Dinas Caerdydd y drws nesaf i Ganolfan Siopa Dewi Sant, yw’r lle perffaith i ddechrau, treulio a gorffen eich noson allan.

ORIAU AGOR

Dydd Llun - Dydd Sul

00:00 - 00:00

Rainbow Casino, sydd wedi ei leoli yng nghanol Dinas Caerdydd y drws nesaf i Ganolfan Siopa Dewi Sant, yw’r lle perffaith i ddechrau, treulio a gorffen eich noson allan.

Rainbow Casino, sydd wedi ei leoli yng nghanol Dinas Caerdydd y drws nesaf i Ganolfan Siopa Dewi Sant, yw’r lle perffaith i ddechrau, treulio a gorffen eich noson allan. Gallwch fwynhau coctel yn eu bar dinesig gyda ffrind, mwynhau pryd o fwyd yn eu bwyty neu brofi’r cyffro a’r wefr y gall y casino ei gynnig.

Mae’r bar yn y ddinas yn cynnig coctels a baratowyd yn ffres, gwinoedd a chwrw oer a dewis o wirodydd a siampaen.  Maen nhw’n cynnal nosweithiau thema, cerddoriaeth fyw a pherfformwyr teyrnged, ewch i’w gwefan i weld beth sydd ganddynt yr wythnos hon.

Mwynhau chwaraeon?  Mae gan ardal y bar sgrin daflunio sydd yn dangos Sky Sports, BT Sports a Box Nation felly chollwch chi fyth unrhyw gampau.

Mae’r fwydlen yn y bwyty yn cynnig detholiad o  seigiau blasus a phrydau ffres at chwaeth pawb. Gallwch fwynhau ffefrynnau traddodiadol, prif brydau swmpus ac amrywiaeth o fyrbrydau o’u bwydlen byrbryd 24 awr. Mae modd mwynhau bwyd yn y bar a’r casino hefyd.

Yn y casino fe gewch chi chwarae roulette, blackjack, slotiau jacpot cynyddol £20,000, ystafell wedi ei neilltuo i chwarae pocer a mwy! Does dim pwysau arnoch i chwarae ac os nad ydych yn siwr sut mae chwarae bydd deliwr yn fwy na hapus i egluro unrhyw un o’u gemau i chi.

Does dim angen aelodaeth fodd bynnag bydd y rheiny sydd yn ymaelodi yn derbyn pecyn croesawu sydd yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth a dros £100 o dalebau i’w mwynhau. Bydd gofyn eich bod o leiaf yn 18 oed i gael ymweld a gofynnir am brawf adnabod.

Mae Rainbow Casino yn lleoliad i bobl 18+ oed ac mae’n hyrwyddo gamblo cyfrifol.

Ffôn

029 2064 3400

E-bost

Cardiff.info@rainbowcasino.co.uk

Cyfeiriad

Rainbow Casino Heol Mary Ann Caerdydd, CF10 2EN