Neidio i'r prif gynnwys

ROXY LANES

Wedi'i leoli yng nghanol dinas Caerdydd ar Heol y Frenhines, mae Roxy Lanes yn ymroddedig i ddod â phrofiad hwyliog drwy gemau gwych, diod wych a cherddoriaeth wych.

Visit Website

Opening hours

Sul - Iau

12:00 - 01:00

Gwe - Sad

12:00 - 02:00

A member of the Visit Cardiff Network.

Gyda bariau ledled y DU, Roxy Lanes yw cartref diodydd a gemau pêl! Yn fwy na lôn fowlio yn unig, mae gan Roxy Lanes Caerdydd hefyd bŵl Americanaidd, gwthfwrdd, pong cwrw, caraoce, bowlio pinnau hwyaid, cwrlo heb iâ, gwthfwrdd banc, gemau arcêd, cawell batio a gwthio disgiau yn ogystal â choctels anhygoel a bwyd Americanaidd sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.

Arbenigwyr mewn cymdeithasu cystadleuol, sefydlwyd Roxy Lanes mewn ysbryd gwrthryfelgar; gan fynd yn groes i’r normau, eu hamcan yw cynnig rhywbeth hwyliog i’n cwsmeriaid y bydden nhw’n bloeddio amdano. Maen nhw’n arwain y ffordd ar gyfer busnes cwsmeriaid yn gyntaf, gyda phrofiadau cwsmeriaid yn gyntaf.

Mae croeso i bobl dan 18 oed gydag oedolyn cyn 5pm, ac mae prisiau gemau ar gyfer adegau tawelach ar gael. Mae’r fwydlen yn cynnwys pizza a seigiau ochr gydag opsiynau fegan a llysieuol, ynghyd â detholiad o ddiodydd yn cynnwys ystod eang o ddiodydd meddal.

Mae’r tîm yn Roxy yn ymfalchïo mewn darparu’r profiad gorau posibl i bob un cwsmer, gyda’u lleoliad unigryw, lleoedd ysblennydd y gellir eu harchebu a phrofiadau adeiladu tîm cyffrous. Mae Roxy Lanes yn lleoliad gwych i grwpiau. Beth bynnag yw gofynion eich grŵp, bydd y tîm archebu arbenigol yn llunio pecyn pwrpasol addas i’ch grŵp. Derbynnir archebion grŵp ar gyfer 14+, ardaloedd llogi preifat, ac mae pecynnau bwyd a diod ar gael. I gael mwy o wybodaeth am archebion grŵp, ewch i roxyballroom.co.uk/group-bookings.

CYFARWYDDIADAU

242 Queen Street, Cardiff CF10 2BH, UK