Neidio i'r prif gynnwys

St David's Dewi Sant Parcio

Mae maes parcio cyfoes gyda 2,000 o lefydd uwchben y ganolfan, sydd yn un o’r mannau rhataf i barcio ar gyfer siopa yng nghanol y ddinas. Mae’r maes parcio yn ddiogel gyda system CCTV 24ain awr yn monitro’r 6 llawr. Mae ardaloedd y maes parcio mewn lliwiau gwahanol hefyd i sicrhau na fyddwch yn anghofio ar ba lefel wnaethoch chi barcio ar ôl diwrnod hir o sipoa. Mae pob lefel wedi ei henwi ar ôl afonydd Cymru hefyd!

Mae yna ail maes parcio yn eistedd o dan John Lewis, sy’n gartref i 550 lefydd. Mae’n bosib cyrraedd John Lewis yn uniongyrchol o’r maes yma, yn ogystal â gweddill y ganolfan.

Prisiau parcio

Hyd at 1 awr    £2
Hyd at 2 awr    £3
Hyd at 3 awr    £4
Hyd at 4 awr    £5
Hyd at 5 awr    £6
Hyd at 6 awr    £9
Hyd at 9 awr    £18
Hyd at 24 awr   £20

Parcio hwyr rhwng – 5yh i 9yh: £2
Parcio nôs rhwng – 5yh i 6yb: £4

Egluriad prisiau parcio hwyr a nos:

Parcio ar ôl 5yh ac ymadael cyn 9yh- £2
Parcio ar ôl 5pm ac ymadael ar ôl 9yh- £4
Nid ydych yn talu £6 pe byddech yn parcio ar ôl 5yh a gadael ar ôl 9yh

 

Am gyfarwyddiadau cyrraedd y maes parcio, ewch i’n tudalennau ‘Cyrraedd y Ganolfan’

Uchder uchafswm cerbydau i’r maes parcio yw 2.15m.