Neidio i'r prif gynnwys

TACTILEBOSCH

Mae tactileBOSCH yn gydweithfa gelf wedi ei harwain gan artistiaid ac sy’n arbenigo mewn celf berfformio, gwaith aml-gyfrwng a gosodweithiau safle-benodol. Drwy eu rhaglen gyffrous o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae tactileBOSCH yn chwilio am leoedd a chyd-destunau newydd, a’u haddasu, gan alluogi artistiaid i arbrofi gyda’u gwaith mewn ffordd fyddai’n gwbl amhosibl mewn lleoliadau neu orielau traddodiadol.