Mae Stadiwm Principality Caerdydd (Stadiwm y Mileniwm gynt), sy’n Stadiwm gwbl gyfoes â tho y gellir ei agor a’i gau, yn un o arenâu dan do mwyaf y byd, ac mae’n gartref i Undeb Rygbi Cymru (URC) ac yn un o stadia mwyaf eiconig y byd. Wedi’i ddisgrifio gan URC fel “lleoliad rygbi gorau’r byd”, gallwch ymweld â’r stadiwm ar daith y tu ôl i’r llenni gyda thywysydd profiadol a fydd yn rhoi ymdeimlad clir i chi o faint a statws cenedlaethol y safle hynod drawiadol hwn.
Ailddechreuodd Teithiau Stadiwm Principality ym mis Mai 2021 gyda llwybr awyr agored newydd, Taith Lap Anrhydedd y Pencampwyr ac o ddydd Sadwrn 26 Mawrth 2022 bydd cefnogwyr yn gallu dilyn ôl traed eu harwyr rygbi wrth i deithiau stadiwm llawn ailddechrau’n llawn amser ac wrth i Daith Lap Anrhydedd y Pencampwyr ddod i ben.
Mae modd dychwelyd i ardaloedd dan do’r stadiwm fel rhan o’r teithiau llawn, gan gynnwys yr Ystafelloedd Gwisgo Cartref ac Aros, Ystafell Cynadleddau’r Wasg Ray Gravell a’r twnnel ysblennydd y gallwch gerdded drwyddi i fowlen y stadiwm a’r glaswellt cysegredig – felly digon o gyfleoedd i dynnu lluniau ar hyd y ffordd.
Bydd tywyswyr gwybodus Stadiwm Principality yn rhannu ffeithiau difyr am hanes digwyddiadau’r stadiwm, o Gemau Rygbi Rhyngwladol a Gemau Cwpan y Byd, Digwyddiadau Gemau Olympaidd 2012, gornestau bocsio o safon ryngwladol a Gêm Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017 i gyngherddau roc a rôl mawreddog fel y Rolling Stones, U2, Madonna a Beyonce.
Ar hyn o bryd, mae teithiau wedi’u cyfyngu i 20 o bobl fesul taith; fodd bynnag, gellir trefnu grwpiau preifat mwy o faint drwy gysylltu â’r Rheolwr Teithiau Dave Cox yn: dcox@wru.cymru
Sylwer: Efallai y bydd y cae chwarae wedi ei orchuddio ar wahanol adegau o’r flwyddyn pan fydd y stadiwm yn cael ei defnyddio i gynnal digwyddiadau eraill.
Mae holl deithiau’r stadiwm yn dechrau yn Siop Undeb Rygbi Cymru, Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS ac yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Sadwrn: 10am–4pm a dydd Sul (a Gwyliau Banc): 10.15am – 4pm.
Mae’n bosib y bydd amseroedd y teithiau yn newid, felly cynghorir archebu ymlaen llaw. Nid yw’r teithiau’n cael eu cynnal ar 25 a 26 Rhag, 1 Ionawr nac ar Ddiwrnodau Gemau a Digwyddiadau.
I archebu taith stadiwm, i weld ein prisiau diweddaraf neu i weld ein gwybodaeth am chwestiynau cyffredin, ewch i’n gwefan yn: www.principalitystadium.wales/tours
I holi am archebion grŵp a gostyngiadau, gallwch hefyd gysylltu â: 029 20822432 neu e-bostiwch: customercare@wru.wales
Mae Stadiwm Principality yng nghanol Dinas Caerdydd felly mae digonedd o dai bwyta yn addas i bob poced gerllaw
I gael gostyngiad o 20% ar eich taith stadiwm, defnyddiwch y cod hyrwyddo – “VISITCARDIFF” – wrth archebu taith eich stadiwm ar-lein. (Nodwch: Mae’r hyrwyddiad disgownt hwn yn berthnasol i Deithiau Stadiwm Principality safonol yn unig a dim math arall o daith)
PARCIO
Y man parcio agosaf yw’r Maes Parcio NCP ar Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1DZ neu Faes Parcio Talu ac Arddangos Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9JU.
AR FWS
Mae'r safleoedd bws agosaf ar Heol y Porth, Caerdydd.
AR Y TREN
Caerdydd Canolog yw’r orsaf drenau agosaf.
Ffôn
029 2082 2432
E-bost
customercare@wru.wales
Cyfeiriad
Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS