Rydym yn angerddol am fwyd o safon a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog – gan sicrhau bod eich ymweliad yn un yr hoffech ei ailadrodd. Mae ein bwydlenni’n newid gyda’r tymor – gan ddod o hyd i gynhwysion o ansawdd uchel gyda phwyslais ar gynnyrch lleol o Gymru lle bo hynny’n bosibl.
Mae’r holl brydau wedi eu paratoi o’r dechrau – gan gynnwys y bara wedi’i bobi’n ffres bob dydd yn ein becws mewnol. Mae ein lleoliad yn darparu rhyfeddod go iawn – ystafell fwyta â gwydr o’r llawr i’r nenfwd ar lawr uchaf Campws Canol y Ddinas nodedig Coleg Caerdydd a’r Fro gwerth £45 miliwn, gyda golygfeydd panoramig ar draws y brifddinas o Fae Caerdydd i ganol y ddinas. Yn ganolog i bopeth a wnawn yw ein gweledigaeth a’n hangerdd dros ddatblygu talent ar gyfer y diwydiant lletygarwch yn y dyfodol.
Mae gan ein tîm o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant gyfoeth o brofiad gan sefydliadau â sêr Michelin a nifer o sefydliadau a ddyfarnwyd gan AA Rosette. Mae’r tîm arbenigol hwn yn arwain ein bwyty o ddydd i ddydd sy’n cael ei staffio gan bobl sy’n mireinio eu sgiliau a’u profiad i ddechrau eu gyrfaoedd yn y proffesiwn – oll yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Ac mae’n gweithio – wrth i’n cyn-fyfyrwyr symud ymlaen i’r ceginau a’r lleoliadau proffesiynol gorau ar draws y rhanbarth, y DU a thu hwnt.
Rydym hefyd yn falch o weithio mewn partneriaeth â rhwydwaith o weithwyr proffesiynol gwadd proffil uchel sy’n rhannu ein brwdfrydedd dros ddatblygu talent y dyfodol. Mae’r cogyddion hyn yn cynnwys James Sommerin a Larkin Cen sy’n cynnal dosbarthiadau meistr misol, sesiynau pan fydd cogyddion gwadd yn meddiannu’r gegin, a sicrhau amserlen gyffrous o ddigwyddiadau i’n cwsmeriaid yn The Classroom.
DIRECTIONS
CAVC City Centre Campus, Dumballs Road, Cardiff CF10 5FE
CONTACT
E-bost
theclassroom@cavc.ac.uk