Neidio i'r prif gynnwys

The Cornwal yw tafarn nodweddiadol Brains Grangetown. Mae yng nghanol y gymuned ac mae’n agos at gae Pêl-droed Dinas Caerdydd, beth am gasglu eich ffrindiau am beint cyn y gêm? Os na chawsoch docynnau, mae’n boblogaidd iawn ar ddiwrnodau gêm. Gwyliwch y bêl-droed neu’r rygbi ar eu sgriniau mawr wrth wledda ar fwyd tafarn traddodiadol. Os ydych yn ymweld â Chaerdydd ac angen arbed arian, mae hwn yn opsiwn da i chi.

Lleoliad: 84 Cornwall Street, CF11 6SR

CYFARWYDDIADAU