Neidio i'r prif gynnwys

THE PHILHARMONIC

Mwynhewch ddiod, bwyd neu ddawns yn lleoliad mwyaf eiconig Caerdydd. Dros dri llawr ysblennydd, mae gan y Philharmonic rywbeth i bawb.

Rydych chi’n siŵr o gael amser da yma, gyda bythau preifat, coctêls campus, prydau tymhorol ffres, mannau llogi preifat, gardd gudd a bar ar ffurf silindr yn y clwb tanddaear sydd ar agor tan 3am bob penwythnos.

Bydd yr enwog Philly yn mynd â chi ar daith fwyd a diodydd heb ei hail.  Cewch yma frecwast cynnar neu hwyr, cinio a swper, neu fyrbrydau wrth y bar.  New gallwch fwynhau coffi, coctêls, gwinoedd di-ri’, cwrw drafft a photel, a’r Ginventory unigryw wrth gwrs.

Gallwch gael diod ym mar hamddenol y Philly, sydd wedi ei rannu dros dri llawr, neu fynd dan ddaear i ddawnsio yn y Clwb 360 enwog, neu fwynhau ar deras to gwych The Heineken. Manteisiwch ar yr Awr Hapus Harmonic, ac fe fyddwch am i’r parti bara am byth!

Ar agor o 10am tan yn hwyr, 7 diwrnod yr wythnos, peidiwch ag aros tan y penwythnos i fanteisio ar y lleoliad gwych hwn.  Yn llawn cerddoriaeth gyfoes, steil a bywiogrwydd, mae’r  Philharmonic yn lle perffaith i ddod â ffrindiau, dathlu achlysur, mwynhau diod ar ôl gwaith, neu hyd yn oed wylio chwaraeon ar un o’r sgriniau niferus sydd wedi’u lleoli ar hyd a lled y safle.

Felly, dewch i mewn, ar ben Heol Eglwys Fair – rydyn ni’n amhosib ein colli – rhowch wybod i’r staff beth sydd ei angen arnoch chi, a gadewch y cyfan iddyn nhw!

DIRECTIONS