Mae’r eiddo mewn lleoliad canolog ar Heol y Gadeirlan, gyferbyn â Pharc Bute, ychydig funudau ar droed o Stadiwm y Mileniwm, Castell Caerdydd a gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
Mae The Spires Caerdydd yn cynnwys 24 o stiwdios a fflatiau ac mae’n gymysgedd o stiwdios, stiwdios uwchraddol, fflatiau 1 ystafell wely, fflatiau 2 ystafell wely a fflatiau uwchraddol 2 ystafell wely.
Mae pob fflat yn cynnig cegin, lolfa, ystafell wely ac ystafell ymolchi â’r cyfarpar llawn, gyda’r fflatiau 2 ystafell wely yn cynnwys 2 ystafell ymolchi. Mae stiwdios yn cynnig man agored gyda chegin, ardal lolfa a bwyta ac ystafell gawod ensuite.
Mae The Spires yn darparu amgylchedd hunangynhwysol ac mae’n arbennig o addas ar gyfer teuluoedd a theithwyr busnes sy’n aros yng Nghaerdydd am gyfnod hirach. Mae teuluoedd â phlant ifanc yn arbennig yn cael eu cyfyngu’n llai nag wrth aros mewn gwestai a gallant elwa o fwy o le nag mewn ystafell wely mewn gwesty, a’r cyfle i goginio neu efallai fwynhau cludfwyd wedi’i ddanfon yn syth i’w drws.
Fel arfer, mae pob stiwdio a fflat yn cynnig:
- Ardal gegin â’r cyfarpar llawn gyda ffwrn a hob, microdon ac oergell
- Ardal lolfa a bwyta cynllun agored
- Cyfleusterau golchi dillad cymunedol sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio
- Coffor a chyfleusterau smwddio yn yr ystafell
- Mae cotiau a chadeiriau uchel ar gael
- Glanhau wythnosol
- WiFi am ddim
- Lle parcio preifat ar y safle (nifer cyfyngedig o leoedd a chodir tâl)
- Mynediad mewn llift i loriau uwch
- Staff dderbynfa ar y safle i’ch cynorthwyo yn ystod eich arhosiad
- Mae croeso i anifeiliaid anwes am ffi o £10 y noson (isafswm tâl £20; uchafswm £50)
- Opsiwn hunangofrestru wrth gyrraedd a gadael
DIRECTIONS
ADDRESS
The Spires Serviced Apartments, 10 Cathedral Road, Cardiff CF11 9LJ
CONTACT
Ffôn
0345 270 0090
E-bost
info@thespires.co.uk