Neidio i'r prif gynnwys

Theatr Everyman yw cwmni theatr mwyaf bywiog ac uchelgeisiol Caerdydd.

Sefydlwyd Everyman Theatre, cwmni theatr mwyaf bywiog ac uchelgeisiol Caerdydd, ym 1942. Wedi’i leoli yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, mae’r cwmni’n cyflwyno amrywiaeth eclectig o ddramâu, gyda phedwar cynhyrchiad bob blwyddyn.

Mae’r cwmni hefyd yn cynnal un o wyliau theatr awyr agored mwyaf y DU –  Gŵyl Theatr Awyr Agored Caerdydd yng nghanol y ddinas ym Mehefin a Gorffennaf.

Yn 2021 mae’r ŵyl yn cynnwys Richard III Shakespeare, The Railway Children gan E Nesbit a The Rose and Crown gan JB Priestly.

Mae’r rhaglen yn Chapter ar gyfer hydref 2021 yn cynnwys Blue Stocking gan Jessica Swain , Blood Wedding gan Federico Garcia Lorca ac A Man for All Seasons gan Robert Bolt

Mae gan Everyman hefyd grŵp ieuenctid ffyniannus a nosweithiau clwb wythnosol yn Chapter.

Mae croeso i aelodau newydd bob amser

E-bost

secretary@everymantheatre.co.uk

Cyfeiriad

Theatr Everyman, Canolfan Gelfyddydau Chapter, 40 Heol Marchnad, Caerdydd CF5 1QE