Mae Theatr Newydd Caerdydd wedi bod yn sefyll ar Plas y Parc yng nghanol y ddinas ers 1906. Dros ganrif yn ddiweddarach, ac mae’r lleoliad yn parhau i groesawu rhai o’r sioeau cerdd teithiol mwyaf i’r brifddinas, ynghyd â sioeau bale, drama, comedi, sioeau plant a’r pantomeim teuluol ysblennydd.
Mae gan y theatr draddodiadol hon awditoriwm ar dair lefel sy’n eistedd ychydig dros 1,000 o bobl gyda golygfeydd da o bob rhan. O ystyried maint y lleoliad, mae yna ryw agosatrwydd agos iawn i’r llwyfan sydd wrth fodd cynulleidfaoedd.
Dros y blynyddoedd, mae Theatr Newydd Caerdydd wedi bod yn gartref i rai perfformwyr chwedlonol gan gynnwys Laurel and Hardy, Shirley Bassey, Tommy Cooper, Anthony Hopkins, Vanessa Redgrave ac, yn fwy diweddar, Maggie Smith, Syr Ian McKellen, Patrick Stewart, Matthew Rhys, Dawn French. Roedd y theatr hefyd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru am flynyddoedd lawer.
Mae Theatr Newydd Caerdydd yn hynod falch o’r gwaith a wna i wneud theatr yn hygyrch i bawb – gyda darpariaeth ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a hynny ym mlaen y tŷ a chefn llwyfan, ac mae nifer o gynyrchiadau bob blwyddyn yn cael eu dehongli gan Sain Ddisgrifio, Capsiynau a BSL. Ceir hefyd berfformiad Hamddenol o’r panto bob blwyddyn. Mae’r theatr yn croesawu amryw o grwpiau lleol a chymunedol yn ystod y flwyddyn i berfformio ar y llwyfan.
Yn adeilad rhestredig, mae’r theatr yn llwyddo i gadw naws glasurol wych wrth ddangos rhai o’r sioeau poblogaidd mwyaf ar hyn o bryd. Pandemig 2020/2021 oedd y cyfnod hiraf yn hanes y Theatr Newydd lle y gorfodwyd hi i gau, ond ail-agorodd ym mis Medi 2021 gyda rhediad rhyfeddol wythnos o hyd o Priscilla, Queen of the Desert.
Bellach yn rhan o grŵp Adloniant Trafalgar, mae rhaglen y theatr yn llawn dop gydag amrywiaeth o sioeau teithiol yn cynnig rhywbeth at ddant pawb gyda phrisiau tocynnau cystadleuol a gostyngiadau ar gael i grwpiau, ysgolion, teuluoedd a phobl dros 60 oed. Os ydych am wella eich profiad ymhellach, gallwch fynd ar daith gefn llwyfan o amgylch y theatr lle gallwch weld yr ardaloedd nad yw’r gynulleidfa fel arfer yn cael eu gweld, gallwch droedio yn olion traed y sêr a hyd yn oed gamu allan ar y llwyfan eich hun!
Mae Swyddfa Docynnau’r theatr ar agor yn ystod yr wythnos ac ar Ddydd Sadwrn felly os ydych chi’n pasio, beth am alw heibio a chael sgwrs gyda’r tîm cyfeillgar a fydd yn hapus i sgwrsio am y lleoliad a’r cynyrchiadau sydd ar y gweill.
Ar y Trên
Yr orsaf reilffordd agosaf yw Caerdydd Stryd y Frenhines
Ffôn
029 2087 8889
E-bost
NTmailings@cardiff.gov.uk
Cyfeiriad
Park Place, Cardiff, CF10 3LN