Neidio i'r prif gynnwys

Mae Traveline Cymru yn wasanaeth gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr ac awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru ar gyfer bysiau, coetsys a thrên, yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio.

Ein pwrpas yw cynnig ‘siop-un-stop’ ar gyfer gwybodaeth deithio, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth siwrnai y bydd ei hangen arnoch mewn un lle, mewn ychydig o gamau syml.

Gallwch ffonio ein Canolfan Gyswllt ddwyieithog ar ein rhif ffôn am ddim 0800 464 0000 gydag unrhyw ymholiadau cynllunio siwrnai sydd gennych. Mae asiantau ein Canolfannau Cyswllt, a leolir ym Mhenrhyndeudraeth, Gogledd Cymru, ar gael rhwng 7am – 8pm bob dydd, trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn darparu gwasanaeth cyfyngedig ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan.

Mae ein Gwefan yn cynnwys y cynlluniwr teithiau, darganfyddwr arhosfan bysiau, amserlenni, mapiau, prisiau tocynnau ac aflonyddwch ar gyfer Bws, Trên, Llwybrau Cerdded, Llwybrau Beicio yn ogystal ag Ymadawiadau a Chyrraedd Maes Awyr Caerdydd. Os byddwch chi’n cofrestru gyda chyfrif, byddwch chi’n gallu arbed eich hoff deithiau, amserlenni neu aros mannau bysiau, gan wneud y wybodaeth rydych chi’n ei defnyddio’n rheolaidd yn hawdd ei chyrraedd. Gallwch hefyd deilwra’r aflonyddwch i ddangos eich hoff wasanaethau yn unig, gan wneud eich profiad gyda ni wedi’i bersonoli i’ch siwtio chi.

Rydym yn cynnig ap symudol dwyieithog am ddim, a fydd yn caniatáu ichi gynllunio’ch taith, yn ogystal â dod o hyd i amserlenni ac aros mannau bysiau wrth fynd. Mae’r ap ar gael ar ddyfeisiau iPhon3 ac Android ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth neges destun, a fydd yn anfon gwybodaeth am eich amseroedd bws nesaf yn uniongyrchol i’ch ffôn symudol. I ddarganfod mwy o wybodaeth am ddefnyddio ein gwasanaethau symudol, ewch i’n tudalen Gwasanaethau Symudol Ap a Thestun.

Gallwch gadw mewn cysylltiad â ni ar gyfryngau cymdeithasol trwy ein dilyn ar Twitter @TravelineCymru i gael negeseuon cyfoes am ddargyfeirio gwasanaethau, oedi neu ganslo, ynghyd ag ail-drydariadau gan weithredwyr ac awdurdodau lleol.

Ffôn

0800 464 0000

E-bost

feedback@traveline.cymru

Cyfeiriad

Penrhyndeudraeth Town Hall, Penrhyndeudraeth LL48 6RH