TrawsCymru yw’r brand ar gyfer rhwydwaith o lwybrau bysus cyflym pellter canolig a phellter hir yng Nghymru, a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddynt lawr isel gyda seddau ar ffurf coetsys a WiFi am ddim. Maent yn cysylltu â phrif gyfnewidfeydd â llwybrau bysus a rheilffyrdd eraill, mae tocynnau ‘drwodd’ yn caniatáu teithio ar y ddau fath o lwybrau.
Mae TrawsCymru yn gweithredu’r gwasanaeth gwennol T9 rhwng Maes Awyr Caerdydd a chanol dinas Caerdydd.