Mae’r gwesty, ar 650 o gefn gwlad prydferth Cymru, bellach wedi ymsefydlu fel un o leoliadau sba, golff a hamdden mwyaf deniadol y DU.
Mae yma westy 143 ystafell wely moethus pedair seren, sba mwyaf Cymru, dau gwrs golff pencampwriaeth a chyfleusterau hamdden heb eu hail. Mae gan nifer o ystafelloedd y gwesty olygfeydd arbennig dros Lyn y cwrs golff. Mae’n cynnig amryw opsiynau ciniawa gan gynnwys y Vale Bar & Grill a agorwyd yn ddiweddar, sy’n cynnig bwydlen Gorau Cymru swmpus. Mae ein gwesty, lle bynnag y bo’n bosibl, yn defnyddio cynnyrch tymhorol llawn gan gynnwys Cig Eidion campus Cymru, gyda rhestr helaeth o win a siampên. Am bryd mwy anffurfiol, ewch draw i’r Bar Hamdden neu’r Bar Golff.
Mae’r ddau gwrs pencampwriaeth – un 7,433 llath Cenedlaethol Cymru a’r Llyn – yn codi enw da Cymru fel cyrchfan golff o’r safon uchaf, a sefydlwyd gan Gwpan Ryder 2010. Am brofiad mwy moethus, mae sba penigamp i ymlacio ynddo i drin y corff, y meddwl a’r enaid. I bobl egnïol mae pwll 20m, campfa fawr, cyrtiau sboncen a thennis, sawna, ystafell stêm a throbwll hefyd ar gael.
Cyfarwyddiadau
Mewn lleoliad delfrydol, mae Gwesty’r Fro ond yn 2 funud o Gyffordd 34 yr M4, lai na dwyawr o Lundain (M4 gorllewin), 45 munud o Fryste a 15 munud o ganol dinas Caerdydd, Gorsaf Caerdydd Canolog a Maes Awyr Caerdydd.
Ffôn
014 4366 7800
E-bost
reservations@vale-hotel.com
Cyfeiriad
Hensol Park, Hensol, CF72 8JY