Neidio i'r prif gynnwys

WALES COTTAGE HOLIDAYS

Mae gennym fwy na 20 o eiddo cysurus a chartrefol yng Nghaerdydd erbyn hyn – hyd yn oed yng nghanol prysurdeb y ddinas.

OPENING HOURS

Mon - Fri

09:00 - 17:00

Sat - Sun

09:00 - 17:00

Mae Wales Cottage Holidays, rhan o’r Original Cottages Family, yn gwmni teuluol annibynnol profiadol sy’n gosod llety gwyliau.  Gyda dros 1,200 o eiddo i ddewis rhyngddynt ym mhob rhan o Gymru, gall ein harbenigwyr lleol eich helpu i ddod o hyd i’r man perffaith i aros yng Nghymru p’un a ydych am gael gwyliau ar yr, arfordir neu ynghanol cefn gwlad, ar fynydd neu mewn cwm, yng nghanol y ddinas neu ynghanol y wlad.  Gydag eiddo â lle i 1 a hyd at 38 o bobl, a’u hanner bron yn caniatáu anifeiliaid anwes, mae gennym rywbeth i bawb.

Mae ein timau archebu eiddo a pherchenogion yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ac wrth eu bodd yn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r eiddo priodol. Mae sawl aelod o’r tîm wedi bod gyda ni ers sawl blwyddyn ac rydym o’r farn bod eu gwybodaeth am Gymru a’u dealltwriaeth o’r farchnad bythynnod gwyliau lleol yn un o’n cryfderau unigryw.

Mae ein tîm pwrpasol yma yn Wales Cottage Holidays yn barod ac yn disgwyl i drin eich ymholiadau ac mae ein swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, yn ystod oriau swyddfa arferol a thu hwnt.

Best of Wales:

Mae Best of Wales, sy’n rhan o’r Original Cottages Family, yn cynnig eiddo gwyliau hunanarlwyo 4 a 5* ledled Cymru. Gyda mwy na 400 o fythynnod ledled y wlad, yr unig drafferth gewch chi yw dewis un o blith yr opsiynau moethus sydd ar gael i roi  blas i chi ar y Gorau o Gymru.

Wales Cottage Holidays Wales Cottage Holidays Wales Cottage Holidays Wales Cottage Holidays

Ffôn

016 8662 8200

E-bost

info@walescottageholidays.co.uk

Cyfeiriad

Wales Cottage Holidays, Bear House, Bear Lanes, Newtown, Powys, SY16 2QZ