Dewch i hedfan gyda Whizzard Helicopters a mentro i’r entrychion o Lanfa’r Hofrenyddion yng Nghaerdydd i gael golwg wahanol, hollol arbennig, ar y byd. Mae hediadau pwrpasol ar gael i ble bynnag y mynnoch, neu dewch ar un o’n diwrnodau hediadau pleser.
Ond nid dyna’r cyfan…. awydd dysgu hedfan?
Rydyn ni’n cynnig gwersi blasu o wahanol hyd i’r rhai sy’n awyddus i roi cynnig ar hedfan hofrennydd neu’r rhai sydd eisiau mynd yr holl ffordd a chael trwydded. Rydyn ni’n hyfforddi peilotiaid yr holl ffordd hyd at lefel masnachol.
Y ffordd orau i deithio, does dim yn well na siartro hofrennydd…
- Cyfarfodydd busnes
- Meithrin Timau Corfforaethol / Cymhelliant i Gyflogeion
- Lansio cynnyrch newydd
- Agor Ffatrïoedd
- Ffilm a Ffotograffiaeth
- Digwyddiadau Chwaraeon
- Gwyliau
- Priodasau a Digwyddiadau Arbennig
- Hedfan i leoliad mewn steil – Cinio / Te Prynhawn
- Hedfa er mwyn pleser
Mae Whizzard Helicopters a sefydlwyd yn 2002 yn Sefydliad Hyfforddiant Cymeradwy (ATO) yn ogystal â bod yn ddeiliad Tystysgrif Gweithredwyr Awyr (AOC), a’i nod yw gwneud hedfan hofrenyddion a hyfforddiant yn fwy hygyrch. Gyda blynyddoedd o brofiad a pheilotiaid cymwys dros ben, gadewch i ni ofalu am eich holl anghenion. Rydym ni’n cynnig gwasanaeth siartro hofrennydd cyfforddus, effeithlon a chyfleus ar gyfer unigolion preifat neu grwpiau i deithio i gyfarfodydd busnes, digwyddiadau chwaraeon neu achlysuron arbennig.
CYFARWYDDIADAU
Ffôn
019 3855 5860
E-bost
info@whizzardhelicopters.co.uk
Cyfeiriad
Cardiff Heliport, Foreshore Road, CF10 4LZ