Neidio i'r prif gynnwys

YSGUBORIAU CWRT YR ALA

Cyfuniad hyfryd o’r hen a’r newydd, yng nghefn gwlad godidog Bro Morgannwg.

Gwnewch eich hun yn gartrefol yn Deer’s Leap, bwthyn moethus â dwy ystafell wely, yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau rhamantus neu egwyl i deuluoedd bach. Ar gael i’w rentu am 7 niwrnod. Y gegin hyfryd, gyda’i chownteri gwenithfaen, yw calon gynnes y tŷ. Cewch fwynhau pryd anffurfiol neu ddiod neu ddwy wrth y bar brecwast, neu loddesta wrth y bwrdd bwyta sydd â lle i chwech.

Bydd y gwely enfawr yn y brif ystafell wely yn noddfa gwbl gysurus. (Nid yw Cwrt yr Ala’n derbyn cyfrifoldeb dros gysgu’n hwyr!) Mae’r ail ystafell wely’n un fawr hefyd, yn ddelfrydol ar gyfer oedolion neu bobl iau, ac mae ganddo’r un adnoddau gwych â’r brif ystafell wely, gan gynnwys cypyrddau dillad a theledu. Mae’r ystafell ymolchi’n olau ac yn foethus. Bydd y gawod foreol neu’r bath gyda’r nos yn ychwanegu’n fawr at eich arhosiad yn y bwthyn hyfryd hwn.

Mae’r fwyaf o’r ddwy ysgubor ar gael i’w rhentu am 7 niwrnod hefyd. Mae lle i hyd at chwech o bobl yn Meadow Springs, gyda golygfeydd hyfryd o bob ffenestr. Mae’r gegin agored yn llawn cyfleusterau ac yn addas at bob dim y gallech ddymuno’i wneud mewn cegin. Gallwch fod yn farista wrth u peiriant espresso neu’n gogydd gwych os dymunwch. Mae’r brif ystafell wely’n fawr iawn ac yn foethus, a’r en-suite yn siŵr o blesio. Mae dau wely dwbl yn yr ail ystafell wely, yn addas felly ar gyfer ffrindiau, plant, neu gyfuniad o bobl – delfrydol os bydd mam-gu a thad-cu’n teithio gyda’r teulu.

Mae’r hen ysguboriau hyn wedi eu hadnewyddu gyda chariad a gofal, ac mae golygfeydd godidog o gefn gwlad Bro Morgannwg. Lle delfrydol i bawb sydd wrth eu bodd gyda heddwch a phrydferthwch. Rhoch alwad i un o’n ymgynghorwyr heddiw.

Cwrt yr Ala Cwrt yr Ala Cwrt yr Ala Cwrt yr Ala

CYFARWYDDIADAU

Ffôn

029 2048 9000

E-bost

samantha.price@keylet.co.uk

Cyfeiriad

Cwrt-Yr-Ala Road, Michaelston-Le-Pit CF64 4HE