Neidio i'r prif gynnwys

Mae Caerdydd, dinas fywiog sy’n adnabyddus am ei sîn fywiog i fyfyrwyr, yn cynnig amrywiaeth o nosweithiau cyffrous i fyfyrwyr ar gyfer gwahanol chwaethau a dewisiadau.  P’un a ydych chi’n hoffi nosweithiau thematig, cerddoriaeth fyw, neu eisiau dawnsio, mae gan Gaerdydd rywbeth at ddant pawb.

Edrychwch ar ein rhestr o nosweithiau myfyrwyr arbennig yng Nghaerdydd

Dydd Llun

Dydd Llun Sgïo yn Heidis – Profwch gyffro Dydd Llun Sgïo yn Heidi’s Bier Bar yng Nghaerdydd lle mae Heidi yn cynnal noson llawn caneuon poblogaidd, cynigion diodydd gwych, a dawnsio di-stop. Mwynhewch DJs byw ar ddau lawr, peintiau am £3, dyblau am £4, a 4 VK am £10 drwy’r nos. Mae tocynnau’n costio £3 ymlaen llaw, a £5 wrth y drws.

Pounded Revolution Caerdydd – Ymunwch â Revolution am brofiad deinamig ar draws dau lawr gyda thair ystafell llawn cerddoriaeth a lle i 2000 o bobl.  Mwynhewch gynigion diodydd arbennig i fyfyrwyr gan gynnwys WKDs am £1 a Vodcas Blas a Chymysgydd am £1 cyn 11pm, a Vodcas Sengl a chymysgydd am £2 a Vodcas Dwbl a chymysgydd am £3 ar gael drwy’r nos. Gallwch ddawnsio drwy’r nos i fîts amrywiol yn y Brif Ystafell neu Ystafell 2, ac i R’n’B a cherddoriaeth hip hop yn Ystafell 3.

Dydd Mercher

Dydd Mercher Gwyllt yn Retros – un o nosweithiau myfyrwyr rhataf Caerdydd! . Gyda diodydd a jochiau o £1 a nosweithiau epig fel partïon Ewyn, partïon UV a Tarw Taflu.  Peidiwch â methu’r nosweithiau hyn!

Hanner Amser yn Revolution – Hanner Amser yw Noson Chwaraeon Swyddogol Met Caerdydd, a gynhelir bob dydd Mercher yn Revolution.  Mwynhewch 2 am 1 ar WKDs bob wythnos ynghyd â disgo distaw a phitsa!

YOLO yn Y Plas – Mae’r noson myfyrwyr arbennig hon yn cynnig tair ystafell thema ar draws dau lawr, yn cynnwys popeth o ganeuon y clwb i sypreisys hwyl fel paent wyneb gliter a rodeo VK. Ymunwch â’r hwyl a gwneud atgofion i bara oes yn YOLO!

POW! yn Pulse – noson myfyrwyr hynaf Caerdydd.  Mae diodydd dethol yn costio £2 cyn 1am, £3 ar ôl hynny ac rydym ar agor tan 4am.  Ymunwch â’r clwb LHDTC+ hwn gyda DJ Gaydio CRAIG LAW ar y deciau.

Dydd Iau

Dydd Iau Distaw yn Heidis – Ymunwch â Heidis ar gyfer Dydd Iau Distaw!  Mwynhewch y noson gyda chynigion anhygoel: o 10 pm i 3 am, gallwch gael  Gwirodydd Sengl gyda Chymysgydd am £2, Gwirodydd Dwbl gyda Chymysgydd am £4, Peintiau am £3, a Photel o Wirod y Tŷ am £45 yn unig. I’r rheiny sy’n cyrraedd yn gynnar, mae Red Run yn cynnig bargeinion arbennig rhwng 7pm a 10pm, gan gynnwys Potel y Tŷ am £34.50 a Thyrau Cwrw am £27.50. Mwynhewch y Blue Run rhwng 4pm a 7pm a 2 beint am £8.50 neu 2 goctel am £10. Peidiwch â cholli’r cyfleoedd gwych hyn!

Mwynhewch fywyd nos myfyrwyr amrywiol yng Nghaerdydd, lle mae pob nos yn addo adloniant a chyffro.

Cofiwch edrych ar galendrau digwyddiadau a mannau poblogaidd nos i fyfyrwyr yn y ddinas i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gigs, nosweithiau clwb a chyngherddau sydd ar ddod.  Mae sîn bywyd nos Caerdydd yn siŵr o’ch diddanu drwy gydol eich siwrne fel myfyriwr.