Beth wyt ti'n edrych am?

Digwyddiadau swyddogol yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru, ar gyfer y Coroni.
Y cyfan sydd angen ei wybod am benwythnos y coroni ym mhrifddinas Cymru, o’r digwyddiadau swyddogol yng Nghastell Caerdydd i ddigwyddiadau mawr eraill y gallwch chi eu mwynhau dros y penwythnos.

Y GWASANAETH A’R SALIWT GYNNAU
Sadwrn 6 Mai | 9:30am-2:30pm | Castell Caerdydd | Mynediad am ddim, dim angen tocynnau.
Bydd sgrin fawr yng ngerddi Castell Caerdydd i ymwelwyr wylio’r Gwasanaeth Coroni – a’r orymdaith i Abaty Westminster ac oddi yno. Bydd y Castell hefyd yn cymryd rhan yn y salíwt gynnau, yn rhan o rwydwaith o saliwtiau fydd yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig, wrth i’r goron gael ei gosod ar ben y Brenin.
Bydd digwyddiad y Coroni yn dechrau am 10am, a bydd y gatiau’n agor o 9.30am i’r rhai sydd am fynychu’r digwyddiad. Bydd yn parhau ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y dydd.
Oherwydd trefniadau seremonïol sy’n digwydd yn fyw yn y Castell fel rhan o’r coroni mae’n bosib taw dim ond is-deitlau fydd ar rai elfennau o ddangosiad y prif ddigwyddiad coroni yn Llundain.

PICNIC BRENHINOL
Sul 7 Mai | 12pm – 4pm | Castell Caerdydd | Mynediad am ddim, dim angen tocynnau.
Gwisgwch yn smart, casglwch eich teulu a ffrindiau ynghyd, ac ymunwch â phawb yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Picnic Brenhinol fel rhan o Ginio Mawr y Coroni ledled y DU. Bydd y dathliadau’n cynnwys rhaglen o gerddoriaeth ac adloniant byw, gan greu awyrgylch o ddathlu a man i bobl rannu bwyd a hwyl gyda’i gilydd. Anogir ymwelwyr i ddod â’u picnic eu hunain neu i fanteisio ar Gaffi’r Castell. Bydd Castell Caerdydd ar agor fel arfer, os hoffech fanteisio ar y cyfle i prynu tocyn i ddarganfod Castell Caerdydd a uwchraddio i Daith y Castell.

Y CYNGERDD
Sul 7 Mai | 7:30pm-11pm | Roald Dahl Plass | Mynediad am ddim, dim angen tocynnau.
Mae Bae Caerdydd wedi’i ddewis fel safle swyddogol i ddangos Cyngerdd y Coroni a chymryd rhan mewn sioe oleuadau gydsymudol, ymhlith lleoliadau eraill ledled y DU. Gwyliwch y cyngerdd, a ddarlledir o Gastell Windsor, ar sgrin fawr yn Roald Dahl Plass. Yn ystod y noson, y canolbwynt fydd ‘Goleuo’r Genedl’, lle bydd y DU gyfan yn dathlu, gyda lleoliadau eiconig ledled y Deyrnas wedi’u hanimeiddio gyda sioe oleuadau anhygoel, ymdrochol, soffistigedig, yn defnyddio amrywiaeth o laserau a dronau i greu’r goleuadau.
Mae’r darllediad o’r gyngerdd yn dechrau ar y sgrîn fawr am 8pm, gyda’r brif sioe dronau’n dechrau ychydig wedi 9.15pm (union amser yn dibynnu ar yr amserlen ddarlledu a’r tywydd).


Pencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop
Mercher 3 Mai – Sul 7 Mai | Stadiwm Principality | Tocynnau i oedolion o £11.
Sgarmesau, gwrthdrawiadau ac ymrysonau hanesyddol. Mae llwyth i edrych ymlaen ato ym Mhencampwriaeth Rygbi Ewrop Cadair Olwyn 2023 yng Nghaerdydd. Bydd chwarae gwefreiddiol, olwyn wrth olwyn, wrth i athletwyr gorau Ewrop ymgiprys dros deitl Pencampwyr Ewrop ar un o lwyfannau chwaraeon enwocaf y byd. Bydd wyth tîm gorau Ewrop yn chwarae yn adeilad eiconig Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, lle bydd cyfle i ennill lleoedd yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024 hefyd.

FOODIES FESTIVAL
Sadwrn 6 Mai – Llun 8 Mai | Parc Bute | Tocynnau i oedolion o £18.
Mae’r ŵyl yn cael ei hadnabod fel y Gastro-Glastonbury, a bydd yn cael ei chynnal ym Mharc hyfryd Bute, Caerdydd yn ystod penwythnos Gŵyl Banc y Coroni. Bydd y digwyddiad tri diwrnod yn cynnwys arddangosiadau coginio byw gan bencampwyr a sêr MasterChef, y Great British Bake Off a’r Great British Menu, yn ogystal â chogyddion sydd wedi ennill sêr Michelin a gwobrau eraill. Bydd y prif berfformwyr cerddoriaeth yn cynnwys Scouting for Girls, Toploader a Craig Charles Funk a Soul Club.
TE PRYNHAWN I’R BRENIN
Ewch i fwynhau un o hoff brydau bwyd y Brenin – te prynhawn! Boed yn te prynhawn traddodiadol, neu de â choctel neu ddau, mae’r cyfan ar gynnig! Mae cymaint o opsiynau blasus ar hyd a lled y Ddinas ar benwythnos Gŵyl Banc y Coroni.
Chwilio am fwy o bethau i’w gwneud yn ystod eich ymweliad? Rydych chi mewn man delfrydol ar gyfer amgueddfeydd, theatrau, bwytai, barrau a siopau – ein gwefan yw’r canllaw dibynadwy ar y cyfan sydd angen ei wybod Gaerdydd.
Beth am wneud yn fawr o benwythnos gŵyl y banc gydag arhosiad yn un o’n Gwestai yng nghanol y ddinas?