Gyda thros 150 o siopau, bwytai a chaffis, St David's Dewi Sant yw’r lle i fod ar gyfer siopa, ciniawa neu adloniant yng Nghaerdydd.

GWEFAN

Opening hours

Llun - Gwe

09:30 - 20:00

Sad

09:30 - 19:00

Sul

11:00 - 17:00

St David's Dewi Sant St David's Dewi Sant St David's Dewi Sant St David's Dewi Sant St David's Dewi Sant St David's Dewi Sant

Mae Canolfan Dewi Sant ar agor

Yn ystod y cyfnod anarferol hwn, mae llawer o’r siopau’n gweithredu oriau gwahanol i’r arfer, ac mae gan rai gyfyngiadau ar waith. Cliciwch yma i ddysgu mwy.

 

Wedi’i leoli yng nghanol prifddinas Cymru, mae Dewi Sant Caerdydd yn gyrchfan siopa pennaf Cymru.

Gyda thros 40 miliwn o siopwyr yn heidio trwy’r drysau bob blwyddyn, mae Dewi Sant wedi sicrhau bod canol dinas Caerdydd bendant ar y map fel un o’r mannau gorau ar gyfer manwerthu yn y DU.

Gyda thros 180 o siopau, caffis a bwytai i’w fforio, Dewi Sant yw’r cyrchfan delfrydol am ddiwrnod allan, p’un ai a ydych yn bwriadu adlonni’r teulu, cael cinio amheuthun gyda ffrindiau neu ddod o hyd i’r eitem berffaith honno ar gyfer eich wardrob.

MWY O WYBODAETH

Mae ei gymysgedd o frandiau dylunwyr a’r gorau o’r Stryd Fawr yn golygu mai Dewi Sant yw’r lle perffaith i fodloni angerdd am ffasiwn, heb sôn am fanwerthwyr teuluol, addurno mewnol, harddwch a phampro.

Mae Dewi Sant wedi dod â llawer o enwau cyffrous newydd i Gymru am y tro cyntaf erioed – gan ddyrchafu Caerdydd i un o’r lleoedd gorau i siopa y tu allan i Lundain. Agorodd Michael Kors a Victoria’s Secret eu drysau i siopau blaenllaw yng Nghymru.

Mae digon o frandiau eraill sydd wedi ymddangos am y tro cyntaf yng Nghymru yn Dewi Sant, gan gynnwys John Lewis, Lego, Jo Malone, White Company, Apple, Pandora ac All Saints. Mae’r ganolfan hefyd yn gartref i’r H&M fwyaf yn y DU.

Hefyd mae gan Dewi Sant y cynnig ffasiwn stryd fawr gorau sydd i’w gael, gydag enwau fel River Island, New Look, Debenhams ac M&S. Gyda chymaint o siopau o dan un to, byddwch yn sicr o ddod o hyd i’r wedd berffaith!

Yn ogystal â bod yn brifddinas siopa Cymru – mae gan Dewi Sant hefyd rai o’r lleoedd mwyaf bywiog i fwyta ac i yfed yn y ddinas, gan gynnwys bwytai a fydd yn plesio rhai o’r selogion bwyd mwyaf brwd.

Yn llawn dop gyda bwytai sy’n addas i bob chwaeth, o TGI Fridays ar gyfer gwledd i’r teulu, i Nandos – uchafbwynt bwyta’n gymdeithasol, bydd digon o ddewis ar ôl diwrnod o therapi siopa. Mae ardal Yr Aes yn llawn lleoliadau blasus, gan gynnwys Wahaca, Jamie’s Italian a’r Cosy Club.

Mae Dewi Sant yng nghanol canol dinas Caerdydd, ac yn lle perffaith i gael mynediad at yr atyniadau gorau i dwristiaid gan gynnwys Castell Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol a mannau gwyrdd trawiadol y ddinas.

I gael diwrnod allan hwyliog, mae’r ganolfan yn gartref i Treetop Adventure Golf. Gyda dau gwrs golff bach gyda 18 twll, gall teuluoedd a ffrindiau fynd i’r afael â’r Tropical Trail neu’r Ancient Explorer, a hyd yn oed mentro’r 19eg twll bonws i ennill rownd am ddim.

Drwy gydol y flwyddyn, mae gan Ganolfan Dewi Sant galendr sy’n byrlymu gyda digwyddiadau cyffrous. O ddigwyddiad siopa myfyrwyr mwyaf y DU i ganolfannau hunluniau Nadoligaidd, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.