Neidio i'r prif gynnwys

Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar i bobl sy'n hoff o Gerddoriaeth Gefnogi Lleoliadau Annibynnol Lleol

25 Ionawr 2023


 

Lleoliadau annibynnol yw asgwrn cefn sîn gerddoriaeth fyw Caerdydd, ac mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galw ar bobl sy’n hoff o gerddoriaeth ledled y ddinas i fynd allan a chefnogi lleoliadau lleol ar lawr gwlad yn ystod Wythnos Lleoliadau Annibynnol (IVW).

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Mae lleoliadau annibynnol wir wedi bod drwy’r felin dros y blynyddoedd diwethaf, ond maent yn parhau’n hanfodol i sîn gerddorol Caerdydd.  Rydyn ni’n deall ei bod hi’n amser anodd ar hyn o bryd, ond y ffordd orau y gall y rhan fwyaf o bobl gefnogi lleoliadau yn y ddinas, a’r artistiaid sy’n perfformio ynddyn nhw, yw drwy fynd i gig, prynu diod, ac efallai hyd yn oed brynu crys-t gan y band.”

Nawr yn ei 10fedblwyddyn, bydd y dathliad blynyddol yn digwydd ar draws y DU o 30 Ionawr a bydd gigs Caerdydd yn cael eu cynnal yng Nghlwb Ifor Bach, Made, Porter’s, The Gate, The Moon a Chanolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd.

Mae’r rhestr o fandiau’n cynnwys SJ Hill sy’n cyfuno Soul Rhythm a Blŵs a phop, y band gwerin cyfoes Bwncath, y cerddor pop arbrofol Amber Arcades, y band roc amgen o Gymru Trampolene, yr artist a enwebwyd am Grammy, Manu Delago, y pedwarawd ôl-pync English Teacher, a mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas hefyd: “Dim ond cerdded i mewn i Glwb Ifor Bach a gweld enwau’r holl fandiau sydd wedi chwarae yno sydd angen i chi wneud i ddeall y rôl sylweddol y mae lleoliadau llawr gwlad wedi’i chwarae wrth ddatblygu cerddorion yn gynnar yn eu gyrfa, a’u helpu i ddod o hyd i’w cynulleidfaoedd. Ond mae eu heffaith yn ehangach fyth – maent yn gwneud y ddinas yn lle bywiog i fyw a gweithio ynddi, ac i ymweld â hi; maen nhw’n cefnogi eco-system gyfan o hyrwyddwyr, peirianwyr, stiwdios ymarfer a labeli, ac yn y pen draw maen nhw wrth galon cymuned gyfan.”

“Yn ei blynyddoedd cyntaf roedd Bwrdd Cerdd Caerdydd yn canolbwyntio ar gefnogi lleoliadau drwy’r bygythiad real i’w bodolaeth a achoswyd gan y pandemig. Mae pethau wedi gwella ers y dyddiau tywyll hynny, ac rwy’n gwybod bod y Bwrdd Cerddoriaeth yn edrych ymlaen at ddechrau cyflawni’n wirioneddol rai o’r prif argymhellion yn Strategaeth Gerddoriaeth Caerdydd. Ond mae lleoliadau’n dal i wynebu heriau sylweddol, a dyna pam rydyn ni’n galw ar bobl sy’n hoff o gerddoriaeth ledled y ddinas i fynd allan i weld sioe yn ystod Wythnos Lleoliadau Annibynnol, cefnogi eu lleoliadau lleol, a gobeithio darganfod eu hoff artist newydd.”

Dywedodd Aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd a chyd-berchennog The Moon ar Stryd Womanby, Liz Hunt: “Mae cymuned Caerdydd wedi bod wrth galon y Moon erioed, ac rydyn ni wastad wedi mwynhau Wythnos Lleoliadau Annibynnol fel amser lle gallwn ni ddod â thalent i mewn o ymhellach i ffwrdd yn ogystal â dathlu’r dalent sydd gennym ar ein stepen drws.  Mae’r Moon wedi bod yn gartref i bopeth o’r bandiau oedd megis dechrau, i’r adegau hynny yr oedd ‘rhaid i chi fod yno’ ar eu cyfer yn achos yr artistiaid oedd ar fin dod yn enwog.  Rydym yn llawn cyffro o fod yn rhan o IVW eto eleni, gan agor y drysau i bawb i ddathlu cerddoriaeth fyw wych.”

Mae rhestr lawn o’r holl gigiau sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, ynghyd â llawer o syniadau am lefydd i gwrdd â’ch ffrindiau am fwyd a diod cyn y sioe, ar gael ar wefan Croeso Caerdydd, https://www.croesocaerdydd.com/wythnos-lleoliad-annibynnol/