Beth wyt ti'n edrych am?
10 PETH I'W GWELD A’U GWNEUD YNG NGHAERDYDD YN YSTOD GWYLIAU’R PASG
Mae’r gwanwyn bellach yma ac rydym am godi ysbryd trigolion ac ymwelwyr Caerdydd!
Mae’r ysgolion wedi cau ar gyfer Gwyliau’r Pasg felly mae Croeso Caerdydd wedi llunio canllaw o 10 peth cyffrous i’w gwneud a’u mwynhau fel teulu. Sgroliwch i weld atyniadau a digwyddiadau â thocynnau, gweithgareddau hwyliog am ddim y gallwch fod yn fwy digymell â nhw, rhestr o westyau sy’n ystyriol o deuluoedd rhag ofn y byddwch am ymestyn eich arhosiad ychydig yn hirach a rhywfaint o gyngor ymarferol y gallai fod angen i chi ei wybod.
Cofiwch – dim ond detholiad bach o’r atyniadau a’r digwyddiadau niferus sy’n digwydd yn y ddinas yw hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar ein tudalennau Gweld a Gwneud a Digwyddiadau i gael gwybod mwy.
1. ARCHWILIWCH A DOG’S TRAIL
Mae A Dog’s Trail yn llwybr celf gyhoeddus ysblennydd am ddim a fydd yn gwau ei ffordd ar draws De Cymru. Am 8 wythnos bydd strydoedd a mannau agored Caerdydd, Caerffili a Phorthcawl yn dod yn gartref i gyfres o gerfluniau Snoopy sydd wedi’u haddurno’n gain, pob un wedi’i gynllunio gan artistiaid, dylunwyr a darlunwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol – rhai’n ffefrynnau adnabyddus a rhai’n dalent newydd.
Felly, pam aros? Dewch am dro, archwiliwch y llwybr a dewiswch eich hoff gerflun Snoopy ar hyd y ffordd! Mwy o wybodaeth yma.
2. CHWARAE GOLFF GYDA TREETOP
I ddathlu Gwyliau’r Pasg, bydd Treetop yn agor am 10am bob dydd o ddydd Llun 4 i ddydd Sul 24 Ebrill. Fodd bynnag, byddwn yn cau am 8pm ddydd Gwener 15, dydd Sul 17 a dydd Llun 18 Ebrill. Gall hyd yn oed blant bach roi cynnig arni a gall teuluoedd o bedwar chwarae am lai ar unrhyw adeg, ar unrhyw ddiwrnod. Gyda dau gwrs golff bach 18 twll dan do i ddewis ohonynt, a fyddwch yn rhoi cynnig ar y ‘Tropical Trail’ neu’n wynebu adfeilion yr ‘Ancient Explorer’?
Gallwch fwynhau pizza wedi’i wneud â llaw o Pizza Cabana a chynnig llwncdestun i bencampwyr eich tîm gyda choctels ffug o The Thirsty Toucan. Does dim angen archebu – dewch draw i chwarae! Mwy o wybodaeth yma.
3. MWYNHEWCH HWYL HANNER TYMOR YNG NGHASTELL CAERDYDD
P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth i ddiddanu’r teulu yr hanner tymor hwn neu eisiau rhywbeth bwganllyd i ddathlu Calan Gaeaf, Castell Caerdydd yw’r lle i fod. Mwynhewch yr atyniad teuluol, ‘Black Tower Tales’ sy’n dod â chyfnod cythryblus o hanes Cymru’n fyw, lle byddwch yn darganfod hanes brwydr ganoloesol yr arwr Cymreig lleol Llywelyn Bren yn erbyn Siryf gormesol Morgannwg. Gellir prynu Black Tour Tales yn y Swyddfa Docynnau gyda thocyn Mynediad Cyffredinol.
4. DYSGU SGILIAU NEWYDD MEWN GWERSYLL HANNER TYMOR FOOTBALL FIESTA
Mae Gwersylloedd Hanner Tymor Football Fiesta yn cynnig y cyfle delfrydol i bobl ifanc gael hwyl ac aros yn egnïol.
Mae’r gwersylloedd i gyd yn digwydd yn Football Fiesta yn y Ffanbarth Pêl-droed o 9am-3pm ac maent wedi’u cynllunio i roi cyfle i blant 6-11 oed ddysgu ac ymarfer amrywiaeth o dechnegau, tra’n mynegi eu hunain mewn amgylchedd hwyliog, diogel a chymdeithasol. Archebwch ar-lein yma.
5. GWEITHIO FEL TÎM YN ESCAPE ROOMS CAERDYDD
Dewch i weld drosoch eich hun pam fod Escape Rooms Caerdydd yn gymaint o hwyl!
Dewiswch eich tîm o 2-6 chwaraewr (fesul ystafell). Dewiswch eich thema o’n 6 ystafell gêm profiad cyflawn. Byddwch yn derbyn amcan a bydd gofyn i chi ddod o hyd i wrthrychau, codau a chliwiau yn yr ystafelloedd. Gyda 60 munud ar y cloc, bydd angen i chi feddwl yn gyflym, meddwl yn ddoeth a gweithio fel tîm os ydych am ddod allan mewn pryd. A oes chwant bwyd arnoch wedi’r holl waith caled hwnnw? Peidiwch ag anghofio eich bod yn cael 25% oddi ar Zizzi Italian gyda chadarnhad eich archeb! Dysgwch fwy yma.
6. EDRYCHWCH AR YR ARDDANGOSFA DAPTEC NEWYDD YN TECHNIQUEST
Mae arddangosfa newydd sbon dros dro newydd gael ei datgelu, wedi’i chynllunio gan dîm ysbrydoledig o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae prototeip wedi’i osod yn Techniquest sy’n mynd â data o Ynys Echni i rywbeth sy’n rhoi gwell syniad i bobl ar y tir mawr o’r hyn sy’n digwydd ar draws y dŵr.
Ni waeth pa mor heulog ydyw ar yr ynys, faint o wylanod neu adar môr eraill sy’n nythu yno, neu lle mae’r mannau gorau ar yr ynys i ddod o hyd i bili-palod – drwy gyffwrdd â gwahanol baneli’r arddangosfa, gall ymwelwyr â Techniquest oleuo’r map gyda lliw, i ddysgu mwy am ecoleg yr ynys sy’n eistedd mor agos at ein glannau, ond nad oes llawer ohonom wedi gallu ymweld â hi. Dysgwch fwy yma.
7. EWCH I GANOLFAN Y DDRAIG GOCH, CARTREF HWYL DAN DO
Mae llawer o hwyl i’w gael yng Nghanolfan y Ddraig Goch y Pasg hwn. Mae cartref hwyl yn llawn gweithgareddau i ddiddanu pawb ac mae yno leoedd gwych i gael bwyd a diod flasus. Hefyd, y gwanwyn hwn, gallwch ymlacio gyda phaned wrth ymyl ein Coeden Natur hardd neu gael hunlun gyda Snoopy yn yr Ardal Werdd o 8 Ebrill ymlaen.
Mae Canolfan y Ddraig Goch hefyd yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Gwesteion Arbennig eraill i sicrhau y cewch y diwrnod allan gorau y Pasg hwn. Dewch i gael hwyl! Dysgwch fwy yma.
8. SGLEFRIO IÂ YN ARENA IÂ CYMRU
Mae’r rhain yn sesiynau cyhoeddus ar gyfer unrhyw un a phawb, gan gynnwys myfyrwyr, sglefrwyr hŷn a phlant bach, ac yn olaf sesiynau gyda’r nos. Mae sglefrio iâ yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu, i ffrindiau neu hyd yn oed i’ch dêt perffaith, lle gallwch gael hwyl ar yr iâ. Cofiwch, mae’r iâ yn gwneud pawb yn gyfartal – bydd pawb yn cwympo!
Bambi ar yr iâ? Dysgwch sglefrio gyda chwrs dwys sy’n cael ei gynnal yn ystod hanner tymor mis Hydref eleni! Dewiswch o gwrs 3 diwrnod neu 5 diwrnod ar y dyddiadau a restrir yma.
9. THE TALE OF PETER RABBIT YM MHROFIAD Y BATHDY BRENHINOL
Dewch i weld drosoch eich hun pam fod Escape Rooms Caerdydd yn gymaint o hwyl!
Dewiswch eich tîm o 2-6 chwaraewr (fesul ystafell). Dewiswch eich thema o’n 6 ystafell gêm profiad cyflawn. Byddwch yn derbyn amcan a bydd gofyn i chi ddod o hyd i wrthrychau, codau a chliwiau yn yr ystafelloedd. Gyda 60 munud ar y cloc, bydd angen i chi feddwl yn gyflym, meddwl yn ddoeth a gweithio fel tîm os ydych am ddod allan mewn pryd. A oes chwant bwyd arnoch wedi’r holl waith caled hwnnw? Peidiwch ag anghofio eich bod yn cael 25% oddi ar Zizzi Italian gyda chadarnhad eich archeb! Dysgwch fwy yma.
10. EWCH I AMGUEDDFA WERIN CYMRU SAIN FFAGAN
Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae gan yr amgueddfa hon le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru gan mai amgueddfa i bobl ydyw, lle gallwch archwilio hanes gyda’ch gilydd drwy fywydau bob dydd pobl. https://amgueddfa.cymru/sainffagan/
Cewch weld sut bu pobl Cymru yn byw, yn gweithio ac yn hamddena. Mae’r adeiladau sydd wedi eu hail-godi yn cynnwys ffermdai, rhes o fythynnod gweithwyr haearn, eglwys ganoloesol, ysgol Fictoraidd, capel a Sefydliad y Gweithwyr hyfryd y gallwch fynd i mewn iddynt i fforio. Darllenwch ragor yma.
Ffansi cael brêc yn y ddinas?
Ewch i’n tudalen aros am lety sy’n addas ar gyfer pob chwaeth a chyllideb.
Eisiau gwybod mwy am drafnidiaeth, neu angen lawrlwytho map? Edrychwch ar ein tudalen gwybodaeth i ymwelwyr.
Rhowch wybod i ni beth wnaethoch chi yn ystod hanner tymor mis Hydref, byddem wrth ein bodd yn gweld eich lluniau! Defnyddiwch #CroesoCaerdydd.