Neidio i'r prif gynnwys

Taith Fwyd Newydd Caerdydd yn Cynnig Blas "Byr, Melys A Sawrus" o Fwyd Cymreig

Dydd Iau, 22 Chwefror 2024


 

Mae Sian Roberts, sylfaenydd y darparwr teithiau bwyd, Loving Welsh Food, wedi ychwanegu taith Caerdydd newydd i’w chynnig teithiau bwyd.

Mae Taith Blasu Caerdydd yn daith blasu hamddenol sy’n cynnwys rhai o danteithion Cymreig gorau’r ddinas. Yn wahanol i’r teithiau bwyd hirach a gynigir gan Loving Welsh Food, mae’r daith hon wedi’i chynllunio i’w chwblhau mewn un bore, gan roi amser i chi gynnwys gweithgareddau eraill yn eich diwrnod.

Ymhlith y danteithion mae pice ar y maen traddodiadol gan Fabulous Welshcakes, blasu wisgi yn Wally’s Delicatessen, pasteiod Clark yn siop Deli’r Farchnad a llawer mwy – gan gynnwys profi cawsiau Cymreig yn Nhŷ Caws, y dechreuodd ei berchennog Owen Davies, sef “Owen the Cheese man”, ei yrfa gaws fel prynwr i Harvey and Brockless yn Llundain. Mae Owen bellach yn arweinydd tîm yng Ngwobrau Caws y Byd ac yn aelod cyswllt o’r Academi Caws.

“Dyma’r tro cyntaf i ni gynnwys Tŷ Caws yn un o’n teithiau ac rydyn ni wrth ein bodd o’u cynnwys nhw,” meddai sylfaenydd Loving Welsh Food, Sian. “Mae Owen yn arbenigwr caws go iawn, ac mae ei ddetholiad o gawsiau Cymreig heb ei ail.

“Ynghyd â’r mannau eraill ar y daith, cewch flas go iawn o brydau arbennig Cymreig yn cynnwys te bore, coffi a bara brith yng Nghastell Caerdydd hyd at fara â chaws pob gyda seidr neu gwrw Cymreig yn y Tŷ Cymreig.”

Dechreuodd Sian, sy’n siarad pum iaith gan gynnwys Cymraeg, ei gyrfa yn gweithio’n rhyngwladol fel tywysydd teithiau cyn dychwelyd i Gymru a dilyn gyrfa hir ym maes cyflwyno a chynhyrchu teledu a radio. Ar hyd y ffordd, mae hi wedi dod o hyd i lawer o ffyrdd i fodloni ei hangerdd am fwyd – gan gynnwys cynhyrchu Coginio, cyfres dwy DVD ar goginio Cymreig, a’i hysbrydolodd i greu Loving Welsh Food.

Mae’r cwmni’n cynnig ystod o brofiadau teithiau bwyd gan gynnwys taith Dinas yr Arcêd sy’n archwilio byd bwyd cosmopolitan Caerdydd, Taith Bwyd Cymru – taith Caerdydd hirach, pedair awr, a theithiau preifat sy’n mentro allan o ganol y ddinas.

Er ei bod yn dal i weithio fel newyddiadurwr radio’r BBC, ei hoff beth yw cyflwyno pobl i hyfrydwch bwytadwy ei dinas fywiog.

“Mae Caerdydd yn ddinas berffaith ar gyfer teithiau bwyd – nid yn unig oherwydd ei threftadaeth fwyd hynod ddiddorol a’i hamrywiaeth ardderchog o fanwerthwyr bwyd, ond hefyd oherwydd bod yr holl atyniadau allweddol o fewn radiws 15 munud i ganol y ddinas, gan ei gwneud hi’n hawdd rhoi cynnig ar lawer o ddanteithion blasus heb flino’ch hun,” meddai. “Mae taith newydd Caerdydd yn flas byr, melys a sawrus o’r brifddinas a fydd yn rhoi amser i chi ffitio gweithgareddau eraill i’ch diwrnod.”

 

Dysgwch fwy am deithiau Loving Welsh Food.