Glannau Bae Caerdydd i ddod yn gartref i barc ymarfer corff awyr agored mwyaf y ddinas

Dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026


 

Mae cyrchfan ffitrwydd awyr agored newydd yn dod i Fae Caerdydd, gyda gwaith ar fin dechrau ar yr hyn fydd yn dod yn ardal ymarfer corff awyr agored fwyaf mewn parc yng Nghaerdydd.

Bydd Parc Calisthenics Bae Caerdydd yn gweld cyfleusterau ymarfer corff presennol Morglawdd Bae Caerdydd yn cael eu hehangu a’u trawsnewid yn ganolfan iechyd a lles rhad ac am ddim, gan roi mynediad i breswylwyr ac ymwelwyr i ystod eang o gyfleusterau ymarfer corff mewn lleoliad prydferth ar lan y dŵr.

Dyfarnwyd y contract i adeiladu’r cyfleuster newydd yn ddiweddar i Encon Construction ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ar ddechrau mis Awst 2026.

Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys ardal calisthenics sylweddol gyda bariau tynnu i fyny, offer gwrthiant, ardal troi teiars drosodd, gorsafoedd eistedd i fyny, blociau neidio a grisiau rhagwthio. Bydd tair lôn yn cynnwys rhwystrau yn galluogi ystod o heriau ystwythder cardiofasgwlaidd. Bydd offer hygyrch i gadeiriau olwyn hefyd, gan helpu i sicrhau bod y gofod yn gallu cael ei ddefnyddio gan bobl o bob gallu.

Ynghyd â’r ardal calisthenics, bydd ymwelwyr yn gallu defnyddio ardal ymarfer chwaraeon newydd a chyfleuster pêl-droed a phêl-fasged hanner cwrt sy’n cynnwys heriau sgiliau pêl-droed, waliau adlam, tennis pêl-droed a gemau targed rhyngweithiol.

Bydd dolen redeg cynhesu 120 metr, ardaloedd eistedd ac ardal ioga ac ymestyn pwrpasol sy’n edrych dros y dŵr yn cwblhau’r datblygiad.

Bydd wal nodwedd ganolog yn darparu gweithgareddau dringo a chryfder gafael, arweiniad ymarfer corff a chysgod rhag gwyntoedd arfordirol, gan greu cyrchfan drwy gydol y flwyddyn ar gyfer ffitrwydd awyr agored.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, y Cynghorydd Jennifer Burke: “Bydd y cyfleuster newydd cyffrous hwn yn darparu cyfleoedd am ddim i bobl o bob oedran a gallu i fod yn egnïol, gwella eu hiechyd mewn lleoliad trawiadol ar lan y dŵr.”

“P’un a ydych chi’n athletwr profiadol, yn rhoi cynnig ar calisthenics am y tro cyntaf, yn cwrdd â ffrindiau i wneud ymarfer corff neu’n chwilio am le unigryw i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored, bydd gan y parc ymarfer corff newydd rywbeth at ddant pawb.”

“Mae prosiectau fel hyn yn rhan bwysig o’n huchelgais i helpu pobl i symud mwy, a gwneud hynny’n amlach, bydd yn darparu cyfleusterau o ansawdd uchel yn ein mannau gwyrdd, ac yn gwneud Caerdydd yn lle gwell fyth i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.”