Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2025
Dyddiad(au)
29 Maw 2025 - 30 Maw 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd ar 29 – 30 Mawrth 2025.
Unwaith eto, bydd yr ŵyl deuluol arobryn yn dod â rhaglen gyffrous ac ysbrydoledig o ddigwyddiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg at ei gilydd, a gyflwynir gan ddarlunwyr ac awduron llyfrau plant poblogaidd.
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn ddigwyddiad cyffrous, blynyddol sydd wedi’i anelu’n bennaf at blant rhwng 3 a 12 oed. Ers 2013, nod yr ŵyl fu helpu i greu darllenwyr gydol oes ac felly, bob blwyddyn fe luniom ni raglen lawn o awduron, darlunwyr a gweithdai i ddiddanu a hudo pobl ifanc i ddarllen.
Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal ar draws un penwythnos, yn cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas Caerdydd a Chastell Caerdydd. Mae’r digwyddiadau yn cynnwys gweithdai ysgrifennu, darlleniadau, gweithgareddau crefft, cwisiau a gemau ac ambell ymddangosiad gan gymeriad neu dda!