Beth wyt ti'n edrych am?
Blue
Dyddiad(au)
11 Ebr 2026
Amseroedd
18:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd Blue yn dod i Arena Utilita Caerdydd ar 11 Ebrill 2026 gyda Gwesteion Arbennig 911.
Mae Blue wedi’i hen sefydlu’n un o eiconau pop mwyaf Prydain yn yr 21ain ganrif. Edrychwch ar eu catalog: y caneuon hynod lwyddiannus eiconig ‘All Rise’ a ‘One Love’, tri rhif 1, sef ‘Too Close’, ‘If You Come Back’ a ‘Sorry Seems To Be The Hardest Word’ (gydag Elton John) YNGHYD â chwe sengl arall yn y 10 uchaf. Aeth eu tri albwm cyntaf yn gyflym i rif 1 ac, wrth gyfri eu ‘Best Of’, maen nhw wedi cronni 12 ardystiad Platinwm anhygoel yn y DU yn unig. Roedd enillwyr dwy wobr BRIT (Perfformwyr Pop Prydeinig ac Egin Berfformwyr Prydeinig) hefyd wedi cael llwyddiant ledled Ewrop yn ogystal ag Awstralia, Japan a Seland Newydd.